Rydym yn falch iawn unwaith eto i gefnogi Mis Plannu a Rhannu Dewch at eich Gilydd Bwyd am Oes, a gynhelir eleni o 22 Ebrill i 22 Mai.
A wyddoch chi?
Lle bynnag y bo modd, mae defnyddio compost heb fawn (neu hyd yn oed gwneud eich compost eich hun!) yn gam bach y gallwn ni i gyd ei gymryd i warchod ein hamgylchedd y gwanwyn hwn. Mae mawndiroedd yn fannau gwerthfawr i fywyd gwyllt ac maen nhw'n storfa enfawr o garbon - mae eu hamddiffyn yn hanfodol yn y frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd.
Cymerwch olwg ar rai o'n prif syniadau, adnoddau ac awgrymiadau ar gyfer cymryd rhan eleni:
1. EWCH ATI I DYFU AR GYFER EICH CINIO MAWR
Os ydych chi'n cymryd rhan yn Y Cinio Mawr eleni, beth am ddod â rhai o'ch ffrwythau neu lysiau gyda chi ar gyfer y wledd? Does dim byd sy'n rhoi mwy o foddhad na rhannu bwyd blasus rydych chi wedi'i dyfu eich hun!
2. PLANNWCH FLODAU AR GYFER EICH STRYD!
A oes angen ychydig o ofal a sylw ar eich stryd? Beth am blannu rhai blodau cyfeillgar i wenyn i fywiogi eich cymdogaeth?
3. PLANNWCH DDÔL BLODAU GWYLLT
Yn ogystal â bod yn llawn hwyl, mae'r gweithgaredd teuluol hwn yn edrych yn brydferth... mae dolydd blodau gwyllt yn helpu i gefnogi pryfed ac adar. Gallwch hyd yn oed adael i ddarn o’ch lawnt dyfu’n wyllt a phlannu hadau blodau gwyllt yno!
4. PECYN CYMORTH PLANNU A RHANNU
Cofrestrwch eich digwyddiad/gweithgaredd Plannu a Rhannu, a chymerwch olwg ar y pecyn cymorth anhygoel a luniwyd gan Dewch at eich Gilydd Bwyd am Oes.
Ymgyrch mis o hyd ledled y DU yw Plannu a Rhannu i'n cael ni i gyd allan yn yr ardd, ar y rhandir neu'r llain lysiau.