22 May 2020

Mae arolwg newydd ar gyfer Y Cinio Mawr yn dangos bod dros 40 y cant o'r boblogaeth yn teimlo bod y cyfyngiadau symud wedi cael effaith negyddol ar eu hiechyd meddwl, ond nid yw pawb yn siarad am y mater. Nid yw un ym mhob 3 o'r sawl mae hyn yn effeithio arnynt wedi siarad â rhywun am eu llesiant emosiynol.

Nid yw'r canfyddiadau yn syndod i'r Cyflwynydd a Digrifwraig Jo Brand, Llysgennad Y Cinio Mawr. Dywedodd y cyn nyrs seiciatrig Jo: "Mae'r argyfwng iechyd hwn yn peryglu llesiant emosiynol pobl. Fel cenedl, does dim dewis gennym ond ynysu ein hunain, ac mae hyn yn gallu arwain at unigrwydd, gorbryder a straen. Mae'n bryder felly nad yw pobl yn ymddangos i fod yn siarad am y teimladau hynny. Pan fydd y cyfyngiadau symud yn cael eu llacio, ni fydd y pryderon hyn o reidrwydd yn diflannu dros nos."

Wrth i Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl ddod i ben, mae Sophie, ein Rheolwr Gwlad Yr Alban, wedi ysgrifennu am ei phrofiad o iechyd meddwl yn ystod y cyfnod rhyfedd hwn a phwysigrwydd estyn allan i eraill.

Mae ein sgyrsiau am iechyd meddwl wedi newid dros yr ychydig fisoedd diwethaf. Yn ystod wythnosau cyntaf y cyfyngiadau symud, roedd mwyafrif y sgyrsiau am ba mor rhyfedd roedd popeth yn teimlo, pa mor dawel oedd hi yn y stryd - sgyrsiau am y sefyllfa, yn hytrach na siarad am ein teimladau. Yn fwy diweddar, mae hynny wedi newid - rwy'n cael mwy a mwy o sgyrsiau lle mae pobl yn gallu siarad am iechyd meddwl, unigrwydd a'r pethau rydym yn eu cael yn anodd.

Rydym yn gofyn, 'A sut ydych chi?' nid gyda chydymdeimlad unochrog, ond gydag empathi, a'r teimlad ein bod yn cefnogi ein gilydd trwy'r sefyllfa hon. Er bod y sefyllfa'n wahanol i bob un ohonom, mae'r coronafeirws yn effeithio ar bawb i ryw raddau, ac nid yw'r ffaith bod iechyd meddwl yn effeithio ar bawb erioed wedi bod mor wir.

Felly, sut mae pawb? A sut mae pawb yn ymdopi?

Mae llawer ohonom yn teimlo'n unig, yn poeni am ein hiechyd neu iechyd ein teuluoedd, neu wedi ein llethu gan ofynion gwaith a theulu oll ar yr un pryd. Mae'r sawl ohonom a oedd yn cael problemau iechyd meddwl cyn yr argyfwng yn brwydo gyda hwn hefyd. I bob un ohonom, diflannodd ein strwythurau cefnogaeth - ymarfer corff, cwrdd â ffrindiau - pan gychwynnodd y cyfyngiadau symud, gan ein gadael i geisio ymdopi hebddynt.

A dyna pam fod edrych allan am ein gilydd yn bwysicach nag erioed. Nid yn unig ar gyfer ein teuluoedd a phartneriaid, ond hefyd ar gyfer ein cymunedau a'n cymdogion. Mae cysur a chefnogaeth y bobl o'n hamgylch yn rhoi cryfder i ni yn ystod cyfnodau anodd.

Yr wythnos ddiwethaf fe basiais rywun ar fy stryd gan stopio i roi maldod i'w gi hyfryd. Doeddwn i heb gwrdd â fy nghymydog (neu ei gi) o'r blaen, ac roedd yn syndod braf pan iddo ofyn sut oeddwn i, mewn modd a oedd yn dynodi ei fod wir eisiau gwybod. Nes ymlaen, wrth siarad â rhywun yn fy mloc o fflatiau, rhywun ro'n i'n pasio bob wythnos ond erioed wedi siarad gyda, fe gofiais ein bod ni'n dau wedi dioddef profedigaeth yn ddiweddar - yn ceisio cario ein hunain a'n galar trwy'r argyfwng hwn. Roedd yna foment o gydnabyddiaeth, o gyswllt, rhyngon ni. Mae'r pethau hyn wedi gwneud i mi deimlo llai ar fy mhen fy hun, gyda chefnogaeth pobl ro'n i newydd gwrdd â hwy.

Yr unig bobl rwy'n gweld wyneb yn wyneb yw fy ngŵr a'r sawl sydd yn y siop yn ystod fy nhrip siopa wythnosol, felly mae'r sgyrsiau mewn person â rhywun y tu allan i fy nhŷ yn brin. Rydym yn disgwyl i ffrindiau agos a theulu fod yno i ni os byddai wir eu hangen arnom, ond nid ydym yn disgwyl hynny o reidrwydd o gymdogion neu gydnabod i ni. Mae cefnogaeth ganddyn nhw yn teimlo fel gweithred annisgwyl o garedigrwydd, hwb ar adeg pan mae ei angen arnom fwyaf. Roedd yr adegau hynny gyda chymdogion yn gwneud i mi deimlo'n llai unig yn fy fflat a gyda fy ngalar personol.

Rwy'n siarad â fy ffrindiau ar-lein, ac weithiau mae'n haws cael sgyrsiau am iechyd meddwl yn y modd hwn, ond pan ofynnodd rhywun i fy wyneb sut ro'n i'n teimlo, roedd yn teimlo fel bod rhywun yn talu sylw i mi. Roeddwn yn gallu gweld rhywun a oedd yn poeni yn edrych arnaf, rhywun a oedd yn cydnabod sut ro'n i'n teimlo ac yn teimlo cysylltiad â mi. Weithiau, y cwbl sydd angen arnoch yw i rywun ofyn y cwestiwn cywir ar yr adeg gywir am gyfle i siarad am eich emosiynau, a gall ddod o fannau annisgwyl.

Mae'n bwysicach nag erioed ein bod yn estyn allan i eraill - yn gofyn am eraill ac yn gofyn am help pan mae ei angen arnom. Mae pob un ohonom yn mynd trwy rhai o adegau anoddaf ein bywydau ar yr un pryd, ac mae rhaid i ni ofalu am ein gilydd, a gadael i eraill ofalu amdanom ni hefyd. Gadewch i ni gadw ati i ofyn sut mae pobl eraill a phan ddaw hyn i ben, gadewch i ni fynd â sgyrsiau am iechyd meddwl a gofalu am ein gilydd i mewn i'r byd newydd ar ochr arall yr argyfwng.

Nawr, yn fwy nag erioed, mae angen i ni wneud amser ar gyfer ein gilydd. Felly, beth am gael y genedl yn sgwrsio dros baned a rhywbeth i'w fwyta a chael ychydig o hwyl gyda'r Cinio Mawr Rhith ar 6-7 Mehefin.

Y Cinio Mawr yw penwythnos diolchgarwch y DU i gymdogion a chymunedau - adeg pan mae pobl yn dod at ei gilydd i ddathlu cysylltiadau cymunedol ac i ddod i adnabod ei gilydd ychydig yn well. I'r sawl ohonoch sydd wedi bod i Ginio Mawr o'r blaen, bydd angen gwneud pethau ychydig yn wahanol eleni, ond bydd yr ysbryd cymunedol yn disgleirio'n llachar, ac os mai dyma eich tro cyntaf neu eich degfed tro, mae nifer o ffyrdd y gallwch gymryd rhan. Gallwch ddarganfod mwy yma.

*Os ydych yn pryderu eich bod yn datblygu problem iechyd meddwl, dylech geisio cyngor a chefnogaeth eich meddyg. Os ydych yn teimlo'n ofidus a bod angen cymorth arnoch ar unwaith ond eich bod yn methu gweld meddyg, dylech fynd i'ch adran damweiniau ac achosion brys leol. Mae gan y Sefydliad Iechyd Meddwl restr o fudiadau iechyd meddwl sy'n darparu llinellau cymorth.