30 December 2016

Wyt ti erioed wedi cael y profiad o ddod ar draws gair, neu ddywediad, ac yna’n dechrau ei weld ym mhob man? Dwi wedi profi hynny gydag empathi.

Peter Lefort presenting.

Chwe mis yn ôl, dechreuais weithio gyda’r Eden Project, er mwyn adeiladu cymunedau cadarn o ddim byd. O gymydog i gymydog, ac yna estyn allan i gymunedau cyfan. Cyn hynny, roeddwn i’n gweithio ochr yn ochr â grwpiau amgylcheddol lleol yn Swydd Rydychen (cymerwch gip ar brosiect gwych CAG am ychydig o ysbrydoliaeth). Dwi wedi cael cannoedd o sgyrsiau gyda phobl sy’n disgrifio eu hunain fel pobl gyffredin, ond sydd wedi gwneud pethau rhyfeddol a phwerus i ddod â’u cymunedau at ei gilydd.

Mae gymaint ohonynt yn siarad am yr hyn maen nhw wedi ei ddysgu am eu cymuned, y bobl maen nhw’n rhannu’r lle gyda – pwy ydyn nhw, o ble maen nhw’n dod, y sgiliau a’r straeon gallan nhw eu cynnig i’w cymdogaeth. Ac newydd ddechrau sylweddoli ydw i – y gair maen nhw’n ei ddisgrifio, er efallai nad ydyn nhw’n defnyddio’r gair ei hun, yw empathi. Y gallu i weld pethau trwy lygaid rhywun arall, a chael dealltwriaeth o’u profiad. Peidio â rhagfarnu neb, does dim ots pa mor gynnil neu anfwriadol.

Trefnodd Peter (y pellaf ar dde’r llun) Ginio Mawr ar gyfer ei stryd eleni

Ond nawr rwy’n ei weld ym mhob man. Rwy’n ei weld yn y Wledd Heddwch, a gafodd ei threfnu ar ôl canlyniad Refferendwm yr Undeb Ewropeaidd er mwyn anfon neges wahanol i un o wahanu ac ofn. Rwy’n ei weld yng ngweithredoedd protestwyr sy’n rhoi eu hunain mewn perygl i frwydro dros ddyfodol y rheiny sydd methu â brwydro eu hunain. Ac mae digwyddiadau eleni wedi dangos bod angen empathi arnom yn fwy nag erioed. I’n dysgu ni, ond hefyd i arddangos ein hunain.

Dywedodd yr awdur, Rebecca Solnit, unwaith “Ar ôl daeargryn, ymosodiad bomio neu storm fawr, mae’r mwyafrif o bobl yn anhunanol, yn poeni’n arw am ofalu am eu hunain a phobl eraill o’u cwmpas, yn bobl ddiarth a chymdogion, yn ogystal â ffrindiau a’r rhai sydd agosaf atom. Nid yw’r ddelwedd o’r dyn hunanol, llawn panig, neu anwaraidd mewn cyfnodau o argyfwng yn un gwir… y nodweddion dynol mwyaf amlwg mewn trychineb yw ein bod yn gadarn, dyfeisgar, cyfeillgar, dewr ac yn dangos empathi.”

Rydym yn wynebu trychinebau (mae hwnnw’n teimlo fel gair priodol), a’r peth gwaethaf allwn ni ei wneud yw anghofio am empathi, hyd yn oed gyda’r rheini sy’n ymddangos fel petaent yn cynrychioli pob dim rydyn ni’n ei weld yn anghywir. Mae gennym ni i gyd y gallu i wneud hynny, ond weithiau mae angen rheswm neu esgus i’w ddefnyddio, ac mae angen i rywbeth ei bryfocio.

Felly tra ein bod ni yn y Cinio Mawr yn dathlu’r gwreichion sy’n ein gyrru i wneud y pethau rydym yn eu gwneud, rydw i eisiau galw am empathi. Ei ddefnyddio, ei adnabod, ei gydnabod a’i ddathlu, fel ymddygiad heriol ond hanfodol. Ni waeth beth yw’r trychinebau posibl sy’n ein hwynebu fel cymdeithas, fy marn wirioneddol i yw bod empathi’n cynnig gobaith - nid yw’r un gwahaniad yn barhaol, ac nid yw’r un dyfodol yn amhosibl.

 

 

Rydw i eisiau galw am empathi. Ei ddefnyddio, ei adnabod, ei gydnabod a’i ddathlu, fel ymddygiad heriol ond hanfodol.