Eden Project yn lansio menter cysylltiad ac adferiad byd natur ar draws y DU diolch i Gronfa Gweithredu Hinsawdd y Loteri Genedlaethol

Mae Eden Project, sy’n fwyaf adnabyddus am ei Fiomau Coedwig Law a Môr y Canoldir eiconig yng Nghernyw, wedi datgelu menter fawr newydd heddiw sydd â’r nod o fynd i’r afael â newid hinsawdd ac ar yr un pryd ymdrin ag argyfwng iechyd meddwl cynyddol y DU.
Wrth i elusen Eden Project baratoi i ddathlu ei phen-blwydd yn 25 oed, mae’n cyhoeddi’r rhaglen tair blynedd newydd hon yn falch, sef Natur: Cysylltiad ac Adferiad.
Gan weithio mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaethau Natur Gwent, Ulster, Swydd Gaerhirfryn a’r Alban, ac Intelligent Health, bydd y rhaglen yn targedu cymunedau ar draws y DU sy’n cael eu heffeithio waethaf gan newid hinsawdd ac anghydraddoldebau iechyd.
Mae’r DU yn y 10% uchaf o wledydd sydd wedi’u disbyddu o ran natur yn fyd-eang, mae’r golled natur hon yn effeithio ar ein cydnerthedd yn wyneb newid hinsawdd ac mae Sefydliad Iechyd y Byd yn amcangyfrif mai afiechyd meddwl fydd y broblem iechyd fwyaf yn fyd-eang erbyn 2030.
Bydd y rhaglen yn cysylltu pobl â byd natur er mwyn rhoi hwb i iechyd a lles, gan gyfarparu cymunedau â’r sgiliau a’r hyder i gymryd camau cadarnhaol dros yr hinsawdd yn lleol.
Dengys ymchwil y gall treulio dwy awr ym myd natur bob wythnos wella lles yn sylweddol, gan danlinellu pwysigrwydd mannau gwyrdd hygyrch i bawb. (1) Mae hynny’n cyfateb i ddim ond 17 munud y dydd a bydd Eden Project yn rhannu awgrymiadau i gyflawni’r lwfans dyddiol hwn lle bynnag y mae pobl yn byw, ar ddechrau 2026.
Bydd gweithgareddau’r rhaglen yn darparu syniadau ac ysbrydoliaeth i alluogi pobl i gymryd camau cadarnhaol dros y blaned yn eu hardal nhw a chyfrannu at her yr hinsawdd. Bydd adferiad byd natur, tyfu bwyd a phrosiectau sy’n seiliedig ar gelfyddyd yn helpu ennyn diddordeb pobl leol mewn gweithredu cadarnhaol dros yr hinsawdd, yn enwedig y rhai sy’n wynebu heriau iechyd meddwl.
Bydd yn cynnwys ymgyrch genedlaethol a gweithgareddau lleol i ennyn diddordeb pobl ym myd natur a chodi ymwybyddiaeth o gamau y gall pobl eu cymryd i liniaru effeithiau newid hinsawdd, gan ddangos y cysylltiad rhwng gweithredu cadarnhaol i bobl a’r blaned.
Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae’r rhaglen Natur: Cysylltiad ac Adferiad wedi derbyn mwy na £2 miliwn mewn ariannu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, ariannwr cymunedol mwyaf y DU.
Esboniodd Sam Alford, Pennaeth Cysylltiadau Natur Eden Project: “Gallwn weld effaith newid hinsawdd o’n cwmpas a bydd y rhaglen hon yn tynnu sylw at rôl byd natur wrth helpu i ddatrys yr argyfwng hinsawdd ac ar yr un pryd dangos sut y gall cysylltiad â byd natur gefnogi gwell iechyd a lles corfforol a meddyliol.
“Erbyn diwedd y tair blynedd bydd mwy o bobl mewn cymunedau ar draws y DU wedi cael y cyfle i helpu siapio a chymryd rhan mewn gweithgareddau cysylltiad ac adferiad byd natur, gan helpu adfer ac adfywio mannau naturiol ger lle maen nhw’n byw. Bydd y rhaglen yn gadael gwaddol o hwyluswyr cysylltiad byd natur hyfforddedig a ‘gwarcheidwaid natur cymunedol’ sydd wedi’u grymuso i amddiffyn a helpu gofalu am fannau naturiol yn eu cymunedau.
Sam Alford, Pennaeth Cysylltiadau Natur Eden Project
Dywedodd Liz Watchorn, Pennaeth Ariannu, Cronfa Gweithredu Hinsawdd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol: “Wrth iddynt ddechrau ar eu dathliadau pen-blwydd yn 25 oed, rydym yn falch o fod yn ariannu Eden Project drwy’r Gronfa Gweithredu Hinsawdd wrth iddyn nhw gefnogi’r rhai yr effeithir arnynt fwyaf gan newid hinsawdd ac anghydraddoldebau iechyd. Mae helpu pobl i ailgysylltu â byd natur yn hanfodol i’n planed a’n lles, a diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol bydd y prosiect hwn yn cael effaith barhaol ar gymunedau ar draws y DU.”
Nod y rhaglen yw cyrraedd pobl a chymunedau sy’n profi tlodi, anfantais a gwahaniaethu a bydd yn eu cefnogi gyda’r sgiliau sydd eu hangen i helpu lliniaru’r argyfwng hinsawdd. Mae wedi cael ei gynllunio mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaethau Natur, Intelligent Health, a Sefydliad Teulu Ashken ac yn annog gwaith partneriaeth lleol ym mhob ardal.
Mae’r ardaloedd a fydd yn elwa dros y tair blynedd nesaf yn cynnwys Dundee,
Morecambe, Lerpwl, Belfast, Casnewydd a Chernyw (cartref Eden Project). Yn y Flwyddyn Newydd bydd y prosiect yn dechrau cael ei gyflwyno yn St Austell, Morecambe a Lerpwl, a bydd gweithgareddau yn y gwledydd eraill yn cael eu cyhoeddi yn yr hydref.
Ychwanegodd Sam Alford o Eden Project: “Mae rhywbeth cynhenid obeithiol am y weithred o hau hadau, tyfu bwyd neu flodau, cymryd rhan mewn prosiect adferiad byd natur yn eich cymuned. Bydd y gweithgareddau hyn yn galluogi cymunedau lleol i fynd i’r afael â newid hinsawdd ac ar yr un pryd cynyddu eu mynediad at fanteision cymdeithasol a lles bod ym myd natur”
I ddarllen y stori newyddion hon yn Saesneg, ewch i wefan Eden Project.
Cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr e-bost
Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr i gael syniadau hwyliog, gwybodaeth ddefnyddiol a straeon newyddion da ysbrydoledig.