19 May 2021

Eleni, mae'r  Cinio Mawr  yn annog y genedl i ymuno trwy gydol  Mis y Gymuned  - i ailgysylltu, cefnogi achosion gwych, a dweud diolch, o 5 Mehefin hyd at  Ddiwrnod Dweud Diolch  ar 4 Gorffennaf! 

 

Mae Covid wedi cael effaith ddinistriol ar gymaint o bobl, ac wedi ein profi mewn ffyrdd nad oeddem erioed yn eu disgwyl, ond pan fyddwn yn wynebu heriau rydym yn aml yn sylwi ar yr hyn yr ydym yn ddiolchgar amdano - y bobl a'r lleoedd lle'r ydym yn byw.


Mae Diwrnod Dweud Diolch, ar 4 Gorffennaf, wedi'i gynnig fel adeg genedlaethol i oedi, pan fydd pobl ledled y DU yn cael eu gwahodd i ddweud diolch i'w gilydd ar ôl blwyddyn anodd. Mae'n gyfle i ddod at ein gilydd gyda'n cymdogion, ein cymunedau a'n teuluoedd, i nodi'r hyn sydd wedi digwydd, dathlu'r ysbryd a ddaeth â ni drwodd, a dweud diolch.  

Mae'r Cinio Mawr  yn 'brif gwrs' ar fwydlen  Diwrnod Dweud Diolch, ac rydym yn eich gwahodd i rannu cyfeillgarwch, bwyd a hwyl i ddweud diolch gyda'ch cymdogion a'ch cymuned.  Mae ymgyrch Diwrnod Dweud Diolch yn cael ei harwain yn Northampton gan yr actifydd cymunedol, a'r Ciniawraig Fawr,  Laura Graham

Dywedodd Laura: 'Roeddwn i'n byw ar fy mhen fy hun yn Northampton ac yn teimlo'n unig ac wedi fy natgysylltu o'r gymuned. Felly, es i  Wersyll Cymunedol Eden Project  ble ddysgais am fenter Y Cinio Mawr. Cefais fy ysbrydoli ac roeddwn yn benderfynol o greu cysylltiad â fy nghymdogion... roedd hynny yn 2017, ac rydym wedi cynnal Cinio Mawr bob blwyddyn ers hynny.   Mae wedi bod yn un o'r pethau sydd wedi creu'r newid mwyaf yn fy mywyd erioed oherwydd ei fod wedi fy nghysylltu â phobl na fyddwn i erioed wedi cwrdd â nhw, ac wedi creu ymdeimlad o ddiogelwch a chymuned.

Oherwydd ein bod ni wedi adeiladu'r cysylltiadau cymdogol hyn, mae pob Cinio Mawr yn teimlo fel diwrnod dweud diolch, ond eleni yn benodol, hoffwn ddiolch i bawb am yr holl bethau bach maen nhw wedi'u gwneud yn ystod y flwyddyn. Y gwenau a'r chwifio llaw o bell, y nodiadau trwy'r drws, rydw i hyd yn oed wedi derbyn cacen ar stepen fy nrws - jyst y pethau bach sydd wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i bawb.

'Rydym yn cynllunio Cinio Mawr ar Ddiwrnod Dweud Diolch, 4 Gorffennaf, a fydd yn digwydd ar ein stryd ac yn cynnwys y gymdogaeth ehangach hefyd, a gobeithio y bydd yn cychwyn y cysylltiad dynol hwnnw yr ydym wedi'i golli cymaint dros y flwyddyn ddiwethaf.'

Mae Llysgennad Y Cinio Mawr Ainsley Harriott hefyd yn cefnogi'r diwrnod, meddai 'Ni allem fod wedi goroesi'r flwyddyn ddiwethaf heb ein gilydd, felly wrth i ni ddechrau mentro yn ôl i'r byd eto, gadewch i ni gymryd eiliad i ddiolch. Dyna pam rwy'n annog pawb i ymuno yn y Diwrnod Dweud Diolch cenedlaethol cyntaf erioed ar 4 Gorffennaf. Dewch i ni gael Cinio Mawr sy'n ddiogel yn gymdeithasol i ddweud Diolch. Ewch amdani. Bwytewch lond eich bol.'

Ymunwch â ni - archebwch eich pecyn Y Cinio Mawr am ddim gyda phopeth sydd ei angen arnoch i ddechrau, ac ewch ati i gynllunio!

Am gael y wybodaeth ddiweddaraf am newyddion ac adnoddau Diwrnod Dweud Diolch?  Cofrestrwch i gael y wybodaeth ddiweddaraf yma.