Teimlo braidd yn hwyr i'r parti, ond eisiau cymryd rhan yn Y Cinio Mawrn eu'r Cinio Mawr Jiwbilî eleni? Peidiwch â phoeni, mae amser o hyd! Dilynwch yr awgrymiadau hyn a chofiwch y gallwch chi ei wneud fel y mynnwch, pryd bynnag sydd orau i chi.
Trefnwch rywbeth hynod o syml
Nid oes gan i'r Cinio Mawr fod yn fawr neu'n ginio hyd yn oed, dod at ein gilydd yw'r peth pwysig. Gallai fod mor syml â dod ag ychydig o bobl at ei gilydd am baned a darn o gacen, felly beth am guro ar ddrws cymydog a’u gwahodd i ymuno â chi?
Os ydych am ddod â digwyddiad ychydig yn fwy at ei gilydd ar y funud olaf, rydym wedi partneru â More Human i greu pecyn ar-lein newydd gyda phopeth sydd ei angen arnoch ar gyfer Cinio Mawr gwych mewn dim ond pum munud! Mae hyn yn cynnwys posteri hardd, tudalennau gwe, cynnwys cyfryngau cymdeithasol a rhestr dasgau defnyddiol. Sicrhewch eich bod hefyd yn cofrestru ar gyfer Pecyn rhad ac am ddim ac yn taro golwg ar y canllaw hwn i Ginio Mawr hynod syml hefyd.
Gwyliwch ddathliadau'r Jiwbilî gyda'ch gilydd
Os ydych chi awydd dod â'r cymdogion at ei gilydd ar gyfer rhywbeth syml ac anffurfiol, beth am diwnio i mewn i wylio rhaglenni'r Jiwbilî gyda'ch gilydd? Mae llawer o ddigwyddiadau arbennig ar y gweill dros benwythnos hir gŵyl y banc, gan gynnwys Goleuo Ffaglau, Cyngerdd y BBC a Phasiant ar y Tafwys.
Bydd y Pasiant yn cyfuno celfyddydau stryd, theatr, cerddoriaeth, syrcas, carnifal a gwisgoedd - felly cryn dipyn o adloniant. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw ychwanegu eich hoff ddiodydd a byrbrydau, ac yna bydd eich Cinio Mawr Jiwbilî yn barod i fynd!
Ymunwch ym Mis y Gymuned
Cynhelir Y Cinio Mawr bob blwyddyn yn ystod penwythnos cyntaf mis Mehefin, ac unwaith eto eleni mae'n cychwyn Mis y Gymuned. Gallwch ymuno pryd bynnag sy'n gyfleus i chi, ac rydym wedi ymuno ag achosion da ledled y DU i roi llawer o gyfleoedd a rhesymau i chi gymryd rhan drwy gydol mis Mehefin.
Cymerodd 15 miliwn o bobl ran ym Mis y Gymuned cyntaf yn 2021 a disgwylir y bydd yr un mor fawr eleni, os nad yn fwy!
Mae'n cychwyn gyda sbloet mawr ar gyfer Y Cinio Mawr, Y Cinio Mawr Jiwbilî, Diwrnod Dweud Diolch, Wythnos Gwarchod Cymdogaeth ac Wythnos Gwirfoddolwyr, ond mae'r hwyl yn parhau trwy gydol mis Mehefin gydag Wythnos Gofalwyr, Wythnos Ymwybyddiaeth Unigrwydd, Wythnos Elusennau Bach, Wythnos y Ffoaduriaid a'r Ymgynulliad Mawr. Tarwch olwg i weld beth sydd fwyaf addas i chi. Pryd bynnag y byddwch yn penderfynu cynnal eich digwyddiad, mae ein posteri heb ddyddiad y gellir eu golyguyn ei gwneud hi'n hawdd rhoi cyhoeddusrwydd i'ch Cinio Mawr.
Gweld beth sy'n digwydd yn eich ardal chi
Os na allwch chi ddechrau unrhyw beth eleni, edrychwch ar Fap Y Cinio Mawr oherwydd efallai bod digwyddiad neu ddau wedi'u trefnu yn eich ardal chi eisoes. Rhowch eich cod post i mewn a chynyddu'r maint ychydig os oes angen, i ddangos digwyddiadau cyhoeddus a phreifat sydd wedi'u cofrestru'n lleol.
Sut bynnag y byddwch yn ymuno eleni, byddem wrth ein bodd yn clywed am eich digwyddiad. Felly, tynnwch lawer o luniau a rhannwch luniau a straeon ar-lein gan ddefnyddio #YCinioMawr #YCinioMawrJiwbilî #MisYGymuned, ond yn fwy na dim cofiwch fwynhau'r hwyl!