Emma Tolley yw'r Swyddog Prosiect ar gyfer menter ‘Deep Roots New Shoots’ yng Nghymunedau'r Eden Project, sydd â'r nod o hwyluso profiadau chwareus rhwng gwahanol genedlaethau. Caiff ei ariannu trwy'r Second Half Fund (gan Nesta a'r Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon), i gefnogi twf mentrau sy'n hwyluso amser a doniau pobl hŷn.
Mae'r dystiolaeth yn glir bod chwarae yn bwysig i bob un ohonom, beth bynnag ein hoedran, ond mae natur mathau y gweithgareddau y gallwn gymryd rhan ynddynt yn gallu newid dros amser. Mae chwarae llawn dychymyg plant iau yn cael ei disodli gan chwaraeon a gemau mwy strwythuredig pobl ifanc ac yna gan gemau mwy eisteddog fel bridge, datrys croeseiriau a sudoku, sy'n cael eu chwarae gan bobl hŷn i gadw'r cof yn heini. Mae ymchwil yn canolbwyntio ar effeithiau cadarnhaol chwarae ar gyfer yr henoed gan gynnwys mwy o ymlacio a gwell gweithrediad gwybyddol, gan gynnwys y cof. Ond, sut gallwn ni fuddio o chwarae gyda'n gilydd?
I'r Ganolfan Gofal Dydd yn Seattle (yn yr Unol Daleithiau) mae dysg a rhyngweithio rhwng cenedlaethol yn ganolog i'w gwerthoedd. Arsylwodd ei sylfaenwyr, yn y gymuned yn ehangach, ein bod yn dod yn gynyddol ynysedig o eraill: mae'r teulu estynedig o genedlaethau'r gorffennol wedi cael ei disodli gan grwpiau teulu llai, mwy ynysedig, gan gyfyngu'r cyfleoedd am ryngweithio rhwng plant ac oedolion o wahanol oedrannau. Ei gweledigaeth ar gyfer gofal dydd i'r henoed oedd creu amgylchedd tebyg i bentref - a bod cael plant ar y safle yn hanfodol i hyn. Mae'r buddion i'r bobl hŷn a'r plant wedi bod yn glir. Mae rhyngweithio gyda'r bobl hŷn wedi helpu'r plant ddod yn fwy hyderus a chroyw, tra bod y profiad wedi rhoi mwy o deimladau o hunanwerth i'r bobl hŷn. Golyga llwyddiant a phoblogrwydd y cynllun bod yna restr aros ar gyfer y ganolfan dydd bob diwrnod ar gyfer y ddau grŵp, ac mae yna ymgyrch cryf yn yr Unol Daleithiau ar gyfer dysgu rhwng cenedlaethau.
Atgynhyrchwyd y model yn ddiweddar yn rhaglen ddogfen Channel 4, “Old People’s Home for 4 Year Olds”, a ddangosodd y buddion amlwg a mesuradwy i'r trigolion hŷn mewn cyfnod o chwe wythnos yn unig, o ran sgiliau corfforol a meddyliol a'u hwyliau. Disgrifiodd Michael, prif athro ymddeoledig yn y cartref, yr arfer o'r plant yn ymweld fel "pwl o adrenalin.”
Mae 63% o deidiau a neiniau gydag wyrion dan 16 mlwydd oed nawr yn darparu gofal plant rheolaidd. Mae'r sawl sy'n gofalu am eu hwyrion am hyd at 15 awr yr wythnos yn aml yn fwy ffit ac iach na'u cyfoedion, ac mae eu risg o ddatblygu clefydau fel Alzheimer yn is. Gellir gweld y gwerth o'r ochr arall, hefyd: mae plant sy'n treulio amser yn rheolaidd gyda theidiau a neiniau yn dangos lefelau uwch o ddatblygiad iaith, creadigrwydd, a sgiliau datrys problemau.
Er mwyn annog a hwyluso chwarae rhwng cenedlaethau, mae'r Eden Project yn lansio Deep Roots, New Shoots: rhaglen o weithgareddau ble mae teidiau a neiniau ac wyrion yn dod ynghyd â theidiau a neiniau ac wyrion eraill ac yn cael eu hysbrydoli i gymryd rhan mewn gweithgareddau a phrofiadau chwarae newydd. Mae'n gyfle i annog a dathlu'r holl fuddion a ddaw gyda chwarae rhwng cenedlaethau. Gydag adrodd straeon, hwiangerddi, gweithgareddau crefft, dosbarthiadau canu ac arwyddo, sesiynau cerddoriaeth a symudiad, teithiau natur a cherdded dan arweiniad ein tîm brwdfrydig o wirfoddolwyr hŷn, mae nifer o gyfleoedd i greu atgofion newydd sy'n para a chael hwyl gyda'n gilydd.
Fel creaduriaid gydag ymenyddiau astrus, strwythurau cymdeithasol cymhleth ac anodd a gwaith caled (sydd yn aml yn ailadroddus), mae chwarae yn arf hanfodol i alluogi plant ac oedolion i archwilio a herio eu hunain, ac i leddfu straen. A gan fod chwarae'n cynyddu optimistiaeth ac yn gwella hwyliau, mae'n cael effaith gadarnhaol ar y gymuned yn ehangach hefyd.