Am Ginio Mawr 2024 Cyffrous!
Daeth miliynau o bobl i’r Cinio Mawr eleni – ein dathliad ar gyfer cymdogion a chymunedau.
Roedd Cinio Mawr 2024 yn gyfle gwych i ddod at ein gilydd, mwynhau’r heulwen a chanolbwyntio ar y pethau syml sydd gennym yn gyffredin.
Roedd ein ffocws eleni ar ei wneud y Cinio Mawr gwyrddaf eto. Fe anogwyd pawb i gymryd rhan mewn rhai camau gweithredu cyfeillgar i’r blaned, gan greu effaith crychdonni drwy gymunedau ledled y DU. Roedd trefnwyr digwyddiadau yn hynod greadigol yn eu hymdrechion i leihau eu heffaith ar y blaned, o addurniadau wedi’u huwchgylchu a’u hailgylchu i rannu prydau blasus yn seiliedig ar blanhigion.
Roedd gwanwyn gwlypaf erioed y DU yn darparu lleoliad arbennig o braf i’r rhai oedd yn mynd allan i’r awyr agored, gyda’r haul yn tywynnu (diolch byth) ar draws y rhan fwyaf o’r DU!
Amrywiaeth ddisglair o ddigwyddiadau…
- Mewn prosiect rhandir yn Tamworth, Gorllewin Canolbarth Lloegr, tyfodd trefnwyr eu llysiau eu hunain i’w gweini ar y diwrnod mawr
- Yn Barrow in Furness bu pobl mewn llyfrgell leol yn mwynhau côr Age UK ac yn dathlu gwirfoddolwyr ifanc yn y gymuned, gan rannu hwyl a oedd yn pontio cenedlaethau
- Agorodd ysgol gynradd yn Belfast eu Gardd Peillwyr
- Yn Sutton, bu prosiect bwyd cymunedol weini seigiau o ddiwylliannau a gynrychiolir yn lleol – o Hong Kong i Wcráin a Brasil i India
- Tynnodd gardd gymunedol ‘therapi-eco’ ar Lannau Mersi sylw at effeithiau lles mynd allan i’r awyr agored
- Yng Nghymdeithas Gymunedol Holborn yn Llundain, cafodd gwesteion o dan arweiniad y gwneuthurwr creadigol Gemma Lloyd, hwyl yn crefftio byntin gan ddefnyddio ffabrig sgrap cyn bwyta cyri fegan gyda’i gilydd.
- Mwynhaodd pobl ddigwyddiad ‘Hau a Thyfu’ yn Kirkcaldy, yr Alban
- Yn Llandrindod, Cymru, roedd y digwyddiad ar ffurf Brwydr Fawr, gyda heriau yn cynnwys rasys cychod a chyrsiau rhwystrau, ynghyd â Chinio Mawr arbennig a roddodd gyfle i bawb ddathlu eu cryfderau a’u sgiliau.
Ymunodd hybiau cymunedol hefyd, gyda’r gadwyn tafarnau Greene King yn cynnal mwy na 350 o ddigwyddiadau ledled y DU. Yn ystod penwythnos y Cinio Mawr cafwyd digwyddiadau yn The Tamar yn Plymouth i The Maltman yn Glasgow, yn ogystal â noson gymdeithasol i gŵn yn The John Gilbert yn Salford. Bydd eu dathliadau cymunedol yn parhau trwy gydol Mis y Gymuned ym mis Mehefin.
Beth bynnag fo’r tywydd, mae pobl wedi dod allan i rannu tamaid i’w fwyta a dod i adnabod ei gilydd yn well, gyda llawer wedi’u hysbrydoli i fod yn rhan o’r Cinio Mawr gwyrddaf eto. Yn ogystal â dod at ei gilydd i rannu cyfeillgarwch, bwyd a hwyl, mae’n wych bod mwy o bobl yn cymryd camau positif ar gyfer y blaned!
Lindsey Brummitt MVO, Cyfarwyddwr Rhaglen, Eden Project
Rhai o uchafbwyntiau 2024
Cynhaliwch Ginio Mawr ar gyfer Mis y Gymuned
Mae dal amser i gynnal Cinio Mawr yn 2024!
Mae ein pecyn ar gael o hyd ac mae’n llawn adnoddau defnyddiol y gellir eu lawrlwytho a chynnwys arbennig i’ch helpu i drefnu a chynnal eich Cinio Mawr.
Allwn ni ddim aros i weld lle gallai eich Cinio Mawr fynd â chi!
Cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr e-bost
Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr i gael syniadau hwyliog, gwybodaeth ddefnyddiol a straeon newyddion da ysbrydoledig.