9 February 2018

A oes gennych ddiddordeb yn y gymuned? Ydych chi'n hoffi cwrdd â phobl newydd a bod allan yn yr awyr agored? Oes gennych chi fwlch yn eich dyddiadur ym mis Mai?! Yna, gallai'r Daith Fawr fod yn berffaith i chi! 

Rydym yn chwilio am bobl sy'n hoff o bethau cymunedol sydd eisiau cymryd rhan mewn her newydd a chyffrous i ymuno â ni ar Daith Fawr 2018.

Bydd pedwar cerddwr yn mynd allan ar bedwar llwybr ar draws ein pedair cenedl, gan gerdded dros 250 milltir dros 21 diwrnod ledled y DU o Morecambe yn Swydd Gaerhirfryn, gan ddychwelyd adref i'w cymunedau yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, mewn pryd ar gyfer y Cinio Mawr ar 3 Mehefin. 

Bob diwrnod, ar hyd y daith, bydd y cerddwyr gwrol yn stopio mewn gwahanol gymunedau i daflu goleuni ar y grwpiau a digwyddiadau anhygoel sy'n dod â phobl ynghyd. Byddant yn rhannu sgyrsiau, bwyd, straeon a phrofiadau gyda'i gilydd - jyst fel y Cinio Mawr! 

Y digrifwr a chyflwynydd, Jo Brand, sydd ddigon cyfarwydd â her gerdded ei hun, arweiniodd y seremoni dechrau y llynedd.  Dywedodd hi: "Roeddwn yn falch iawn o gael fy ngwahodd i lansio'r Daith Fawr.  Roedd yr awyrgylch yn wych. Er gwaethaf y tywydd gyda'r glaw mawr, roeddem yn fyw ar The One Show a doedd y cerddwyr yn methu aros i gychwyn. Y llynedd roedd cymaint o bethau negyddol yn digwydd yn y byd, roedd yn braf gallu taflu goleuni ar y cerddwyr hynod benderfynol a'r cymunedau amrywiol ledled y DU gan ddod ynghyd dros y tair wythnos i'w croesawu wrth iddynt basio heibio."

Os yw hyn yn swnio fel rhywbeth i chi darllenwch y briff yma ac YMGEISIWCH NAWR!Beth am gymryd cipolwg ar y ffilm fer isod i weld hynt a helynt ein cerddwyr y llynedd... 

mân brint...

Mae angen i'r cerddwyr fod: 

  • Dros 18 mlwydd oed
  • Yn ddigon ffit yn gorfforol i gerdded hyd at 20 milltir y diwrnod am 21 diwrnod
  • Yn gallu dangos gwir ddiddordeb mewn prosiectau cymunedol
  • Ar gael am hyd y daith gerdded (14 Mai - 3 Mehefin)