5 October 2017

Eleni, fe gymerodd 9.3 miliwn o bobl ran yn y Cinio Mawr 2017 i ddathlu cymuned, cyfeillgarwch a'r pethau sydd gennym yn gyffredin - mae hynny'n cynnwys 14% o'r DU!

Photo of a rooftop Big Lunch in London

Mae tystiolaeth yn dangos bod dod â chymdogion ynghyd ar gyfer y Cinio Mawr nid yn unig yn llawer o hwyl, ond hefyd yn adeiladu ysbryd cymunedol.    Gyda'r haul yn tywynnu'n braf a'r Cinio Mawr yn tanategu'r Ymgynulliad Mawr, dyma oedd ein blwyddyn orau erioed.

Ers cychwyn yn 2009, mae miloedd o Giniawau Mawr wedi digwydd ym mhob math o gymunedau, gyda miliynau o bobl yn cymryd i'w strydoedd, gerddi a mannau cymunedol am ginio.

Yn y cyfnod hwnnw mae nifer y cyfranogwyr yn y Cinio Mawr - syniad a ddyfeisiwyd gan yr Eden Project ac a wnaed yn bosib gan y Loteri Genedlaethol - wedi tyfu o lai na miliwn yn 2009 i 7.3 miliwn yn 2016.

Eleni, y dyddiad ar gyfer y Cinio Mawr ledled y DU oedd dydd Sul 18 Mehefin, gan lunio uchafbwynt penwythnos yr Ymgynulliad Mawr, trwy bartneriaeth a luniwyd gyda Sefydliad Jo Cox.  

Y Cinio Mawr yw dathliad blynyddol y DU ar gyfer cymdogion gyda'r nod o ddod â phobl a chymunedau ynghyd i ddathlu cysylltiadau a'r pethau sydd gennym yn gyffredin. Gyda 9.3 miliwn yn ymuno eleni, rydym yn edrych ymlaen yn barod at 2018, ein degfed flwyddyn!

Y flwyddyn nesaf, rydym yn gobeithio cysylltu hyd yn oed mwy o bobl gyda'r bobl yn eu cymunedau, ond yn y cyfamser, ymunwch â ni wrth i ni ddathlu effaith Cinio Mawr 2017 ar Twitter a Facebook gan ddefnydd #CinioMawr a helpu lledaenu'r gair am y Cinio Mawr ar 3 Mehefin 2018!