Ysgrifennu erthygl
Dyma rai argymhellion ar sut i ysgrifennu’r erthygl berffaith i hyrwyddo eich prosiect.

Rydyn ni wrth ein boddau’n clywed am eich prosiectau a’ch digwyddiadau, ac rydyn ni eisiau eich helpu i gynyddu eu proffil. Un ffordd i ni wneud hyn yw cynnwys eich stori, yn eich geiriau eich hun, ar ein blog . Dyma rai argymhellion ar gyfer ysgrifennu’r blog perffaith:
Beth yw’r pennawd?
Rhowch deitl i’ch stori a fydd yn gwneud i bobl eisiau ei darllen. Beth am gynnwys rhywbeth sy’n canolbwyntio ar effaith eich digwyddiad neu brosiect? Er enghraifft, “Y Cinio Mawr yn dod â fy nheulu at ei gilydd”.
Y cyflwyniad perffaith
Y cyflwyniad perffaith
Dechrau yn y dechrau
Dywedwch wrthym pam wnaethoch chi benderfynu cynnal y prosiect neu’r digwyddiad. Pa broblem oeddech chi’n ceisio ei datrys neu ba fater oedd dan sylw? Beth oedd eich nod wreiddiol? Beth oedd y prif heriau ar y dechrau?
Beth ddigwyddodd nesaf?
Ewch ymlaen i esbonio sut daeth pethau yn eu blaenau. Pa gamau ymarferol a gymerwyd? Rhaid cynnwys y pethau allweddol rydych chi eisiau eu trosglwyddo i bobl eraill a all fod mewn sefyllfa debyg i chi a sut wnaethoch chi ymdopi â’r pethau da a’r pethau gwael.
Diweddglo hapus
Dewch â phethau i ben trwy sôn am ba wahaniaeth wnaeth eich digwyddiad neu brosiect i’r gymuned. Beth sydd wedi newid? Beth am gynnwys tystiolaeth a geiriau o gefnogaeth gan bobl eraill, fel dyfyniadau gan gymdogion neu unrhyw gydnabyddiaeth gan y wasg leol neu arweinwyr eraill yn y gymuned?
Tacluso
Pan fyddwch wedi ysgrifennu’r drafft cyntaf, gadewch lonydd iddo am ychydig, cyn mynd yn ôl ato ac edrych arno o’r newydd. Ceisiwch dacluso pob dim a chadw’r cyfan yn fyr ac yn gryno – bydd unrhyw beth rhwng 500-800 fel arfer yn ddigon hir. Dilëwch unrhyw eiriau gwag neu ailadrodd. Dangoswch y darn gorffenedig i rywun fydd yn rhoi adborth gonest ichi.
Llafar pob llun!
Mae angen llun gwych i bob stori wych. Os yw’r stori’n sôn amdanoch chi, bydd y darllenwyr eisiau gweld llun hyfryd ohonoch chi – gorau oll os yw’n eich dangos chi ar waith ar eich prosiect neu ddigwyddiad. Sicrhewch fod y llun o ansawdd uchel ac mor eglur â phosibl.
Os ydych yn fwy o gyfarwyddwr ffilmiau dogfen nag awdur, gallwch greu ffilm os dymunwch….
Mwy fel hyn

Creu ffilm
Mae ffilmio prosiect neu ddigwyddiad yn ffordd wych o rannu’r profiad o fod yn rhan ohono. Dyma ein hargymhellion.

Cael cymorth gan y cyngor
Os ydych yn cynnal digwyddiad yn eich cymuned, gall fod yn syniad da cael y cyngor lleol ar eich ochr chi.

Use Facebook, Twitter and Instagram
Social media isn’t just geared towards an individual’s social life. These networks can also have a social purpose, helping foster communities of practice. Most…