Enillwch becynnau i’ch helpu i ddod â’ch cymuned ynghyd y gaeaf hwn
Y gaeaf hwn rydym yn annog pawb i ddod ynghyd i ledaenu llawenydd yn eu cymunedau. Mae llawer y gallwch ei wneud gydag ychydig o amser ac rydym yn helpu 30 o bobl lwcus i gychwyn arni!
O bosteri a gwahoddiadau i helpu i gynnal Cinio Mawr Nadoligaidd, i fwydlenni sgwrsio a thempledi cracers i ddiddanu gwesteion, rhowch eich manylion isod a byddwn yn dewis 30 o enillwyr ar hap ar 14 Tachwedd. Bydd un enillydd lwcus iawn hefyd yn derbyn taleb Iceland gwerth £50 gyda’i becyn (a ddewisir ar hap).
Mae pecyn Cynheswyr y Gaeaf yn cynnwys:
- pecyn adnoddau Y Cinio Mawr adeg Dolig – posteri, gwahoddiadau, bwydlenni sgwrsio, baneri bwyd, cardiau bingo dynol, templedi cracyrs Nadolig, a chortyn i fod yn grefftus!
- Cerdyn rysáit arbennig gan gogydd enwog ar gyfer byrbryd gaeafol blasus i’w rannu
- bocs hyfryd o fins peis o Iceland
*Mae’n ddrwg gennym na fyddwn yn gallu anfon mins peis at ymgeiswyr yng Ngogledd Iwerddon. Mae croeso o hyd i chi gystadlu am gyfle i ennill gweddill y pecyn. Darllenwch Delerau ac Amodau’r gystadleuaeth (EN).
Ymddiheuriadau nad ydy’r ffurflen yma ar gael yn y Gymraeg.