Yn ystod y Daith Gerdded Fawr, syniad gan yr Eden Project a oedd yn bosib yn sgil ariannu gan y Loteri Genedlaethol, fe welwyd 14 cerddwr yn cerdded dros 1,400 o filltiroedd ar droed rhwng 29 Mai a 19 Mehefin. Pam? I daflu goleuni ar bobl gyffredin yn mynd y filltir ychwanegol i ddod â phobl ynghyd yn eu cymuned, ac er mwyn cael chwant bwyd ar gyfer y Cinio Mawr ar 18 Mehefin.
Bu timau'r Daith Gerdded Fawr adael Batley yn Swydd Efrog gan fynd mewn pum cyfeiriad gwahanol tuag at Gymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon, Cernyw a Llundain - a gan gerdded rhwng 10 a 26 milltir y diwrnod!
'Cefais brofiad mor dda ar y daith, roedd yn un o brofiadau gorau fy mywyd ac roedd yn fraint ac yn anrhydedd gallu cymryd rhan'
- Josh Quigley, Cerddwr - Llwybr yr Alban
'Mae'n anodd iawn dweud pa un [o'r prosiectau cymunedol yr ymwelwyd â hwy] oedd fy ffefryn gan fod pob un ohonynt yn gwneud gwaith gwych i ddod â'u cymunedau ynghyd. Roedd yn bleser cwrdd â nhw’ – Mohammad Zaman, Cerddwr - Llwybr Llundain
Roedd y Daith Gerdded Fawr yn brofiad emosiynol i bawb a gymerodd ran. Ymwelwyd â dros 150 o grwpiau cymunedol ar y ffordd - o ddawnswyr cadair olwyn, i 'gaffi atgofion' ar gyfer yr henoed, i Men's Sheds, i grwpiau'n bwydo'r digartref, a llawer mwy. Un peth sy'n sicr o'r profiad yw bod camau bach yn gwneud gwahaniaeth mawr. Mae cymaint o bobl gyffredin ledled y DU yn gwneud yr ymdrech i greu newid cadarnhaol ble maen nhw'n byw, gan helpu pobl a'r awyrgylch o'u hamgylch. Does dim gweithred yn rhy fach.
Cafodd y cerddwyr a'r criwiau cefnogi gymorth gan Bupa a sicrhaodd eu bod yn iach ac yn heini, Renault a aeth â'u bagiau A i B, YHA a drefnodd noson dda o gwsg mewn gwely cyfforddus, a Fitbit a oedd ddigon caredig i roi dyfais yr un i'r cerddwyr i helpu cadw cofnod o'r camau a'r milltiroedd. Ni fyddai'r fenter yn bosib heb y Loteri Genedlaethol a ariannodd mwyafrif y daith gerdded a rhoi'r timau cerdded mewn cysylltiad â rhai o'r grwpiau cymunedol gwych sy'n gwneud gwaith da, diolch i ariannu gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol. Cefnogwyd y Daith Gerdded Fawr gan The Pears Foundation a Sefydliad y Tywysog hefyd felly diolch yn fawr i bob un o'n harianwyr a chefnogwyr a wnaeth y daith yn bosib.
Gallwch gymryd golwg ar ein halbymau o uchafbwyntiau dyddiol i gael blas ar yr hwyl, yr adegau braf a'r gwersi bywyd; gweld map o'r pum llwybr; darllen proffiliau'r holl gerddwyr anhygoel; darganfod mwy am ein partneriaid a darllen mwy am y fenter ar thegreatbigwalk.com.