
O chasni i gacen gaws: dyma’r sawl sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol wrth i ni chwilio am Ryseitiau’r Cinio Mawr!

Gofynnwyd i gogyddion cartref ledled y DU gymryd rhan yn y gystadleuaeth i ddod o hyd i Ryseitiau’r Cinio Mawr – dathliad o’r prydau sy’n dod â ni at ein gilydd. A waw, am ymateb anhygoel. O hoff ryseitiau teuluol i ffefrynnau lleol, cawsom straeon a blasau o bob cwr o’r DU a wnaeth i ni chwerthin, gwenu a theimlo’n eithaf llwglyd.
Ysbrydolwyd y gystadleuaeth gan ymchwil YouGov a gomisiynwyd gennym yn ddiweddar, a ddatgelodd nad yw bron i un o bob saith o holl oedolion y DU (14%) byth yn coginio rysáit hollol newydd, gyda thua chwarter o bobl (24%) yn cyfaddef bod diffyg syniadau yn eu digalonni rhag coginio saig newydd sbon. Gyda hynny mewn golwg, fe aethon ni ati i geisio sbarduno ychydig o ysbrydoliaeth – ac fe dderbyniodd pobl ledled y DU yr her.
Fe chwilion ni am seigiau sy’n adlewyrchu amrywiaeth anhygoel ein pedair cenedl – y traddodiadau, y blasau a’r straeon personol sy’n gwneud bwyd mor ystyrlon – a nawr rydym wrth ein bodd i allu datgelu’r 10 uchaf yn y rownd derfynol!
Mae’r seigiau hyn yn llawn cariad, diwylliant a chysylltiad – gan ddangos, boed yn fyrbryd bwyd stryd sbeislyd neu’n bwdin cartref sy’n cael ei basio i lawr trwy genedlaethau, fod gan fwyd y pŵer i ddod â phawb at ei gilydd.
Y sawl sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol
Dyma’r 10 sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol wrth i ni chwilio am Ryseitiau’r Cinio Mawr:
- Cacennau Tsili (Gateaux Piment) – wedi’i chyflwyno gan Yohannah Caussyram o Surbiton
- Cacen Gaws Mefus a Fanila – wedi’i chyflwyno gan Ben Le Bas o Frome
- Empanada Pwmpen Cnau Menyn – wedi’i chyflwyno gan Melanie Booth o Westbury
- Gwellt Caws – wedi’i chyflwyno gan Ian Woods o Norwich
- Sgonau Lemwnêd mewn Airfryer – wedi’i chyflwyno gan Clair Kirk o Carlisle
- Salad Ffacbys – Salad Chana – wedi’i chyflwyno gan Sal Ahmed o Fryste
- Siytni Afal Gwyddelig gyda Bara Hadau Gwyddelig Cartref – wedi’i chyflwyno gan Roisin Murray-Gibbons o Warrenpoint
- Olwynion Pin Pesto Garlleg Gwyllt – wedi’i chyflwyno gan Jayson Cheyne o Falkirk
- Chasni Cyw Iâr Dad – wedi’i chyflwyno gan May Donald o Bishopton
- Pasteiod Dad – wedi’i chyflwyno gan Kathryn Burnand o Brestatyn
Mae pob un o’r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn adrodd stori – am dreftadaeth, am arbrofi, ac am deuluoedd a chymunedau yn dod at ei gilydd mewn ceginau i drosglwyddo cariad a chysylltu drwy fwyd. A dyna ysbryd Y Cinio Mawr.
Mae bwyd yn dod â ni at ein gilydd
Dywedodd 76% o’r rhai a gymerodd ran yn Y Cinio Mawr 2024 ei fod wedi gwneud iddyn nhw deimlo eu bod nhw’n perthyn yn fwy yn eu cymuned – prawf bod dod at ein gilydd am fwyd a hwyl yn fwy na phryd o fwyd yn unig – gall fod yn gatalydd ar gyfer cysylltiad.
Boed yn fyrbryd sbeislyd o dramor, pwdin wedi’i baratoi â chariad, neu damaid sawrus a basiwyd i lawr gan dad, mae’r ryseitiau hyn yn sbarduno cyfeillgarwch ledled y DU.
Mwynhewch ysbryd cymunedol yr haf hwn
O Belfast i Ben-y-bont, Portree i Penzance, mae pobl yn paratoi i rolio’r lliain bwrdd allan a gweini rhywbeth arbennig.
Felly, paratowch eich prydau cartref neu fyrbrydau o’r siop. Mae’r Cinio Mawr yn hwyl, mae’n hawdd ac mae ar gyfer pawb a dyma’ch gwahoddiad i ymuno!
Cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr e-bost
Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr i gael syniadau hwyliog, gwybodaeth ddefnyddiol a straeon newyddion da ysbrydoledig.