Grym trawsnewidiol rhannu yn eich cymdogaeth
Yn y byd cyflym sydd ohoni heddiw lle mae costau cynyddol ar flaen ein meddwl a heriau amgylcheddol yn fwyfwy enbyd, mae gan rannu yn eich cymdogaeth y grym i drawsnewid!

Boed yn gyfnewid arbenigedd tasgau cynnal a chadw, benthyca offer neu roddi dillad babanod – gall cronni adnoddau a meddwl yn greadigol ein helpu i arbed arian, bod yn fwy caredig i’r blaned a thyfu cyfeillgarwch.
Dychmygwch fenthyg yr hyn sydd ei angen arnoch, pan fyddwch ei angen, gan arbed arian parod (a lle)! Mae rhannu yn eich cymdogaeth yn helpu i arbed arian trwy leihau’r angen i brynu eitemau nad ydych yn eu defnyddio’n aml. Ydych chi’n cofio’r dril pŵer hwnnw ddefnyddioch chi unwaith yn unig – mae’n debygol bod gan eich cymydog un hefyd!
Mae cymunedau’n ffynnu ar ryngweithio cymdeithasol ac mae’r weithred o rannu yn ein hannog i siarad a chysylltu. Mae cymdogion sy’n rhannu’n cryfhau perthnasoedd, yn lleihau teimladau o arwahanrwydd ac yn meithrin ymddiriedaeth – gan greu ymdeimlad cryfach o gymuned.
Trwy gofleidio’r ysbryd o rannu, rydym yn gwneud gwell defnydd o adnoddau ac yn lleihau’r angen am bethau newydd; gan leihau defnydd a gwastraff ar y cyd ac ysgafnhau ein hôl troed amgylcheddol, tra’n cefnogi pawb i gael mynediad at yr hyn sydd ei angen arnynt.
Mae manteision parhaol i rannu yn eich cymdogaeth. Mae’n fwy caredig i’n waledi, ein cymdogion a’r blaned – beth am roi cynnig arni?
Gweithredoedd syml i sbarduno rhannu yn eich cymdogaeth
1) Rhannwch gyda’ch cymydog
Pwy allai fod â’r eitem neu’r sgil rydych chi’n chwilio amdano a beth allech chi ei gynnig yn gyfnewid pan fydd angen llaw ar rywun arall? Cyn i chi brynu rhywbeth, beth am ofyn yn eich ardal leol, piciwch drws nesaf i weld a oes ganddyn nhw’r hyn sydd ei angen arnoch chi, neu postiwch nodyn mewn grŵp Facebook neu WhatsApp i weld a allech chi fenthyg un o rywun cyfagos.
2) Trefnwch Ginio Mawr
Flwyddyn ar ôl blwyddyn, mae sgyrsiau a ddechreuwyd mewn Cinio Mawr wedi arwain at rannu mwy na chyfeillgarwch, bwyd a hwyl mewn cymunedau.
Darllenwch sut i Ginio Mawr Lauren sbarduno mwy o rannu yn y gymdogaeth
“Mae wedi gwneud gwahaniaeth enfawr gyda dros 10 mlynedd o Giniawau. Rydyn ni’n gofalu am ein gilydd, rydyn ni’n helpu ein gilydd, rydyn ni’n rhannu pethau i leihau gwastraff, mae gennym ni gymuned arddio. Yn bennaf oll rydyn ni’n adnabod pawb ar y ffordd ac yn gwneud yn siŵr ein bod ni’n eu cefnogi, o fynd â rhywun i’r ysbyty, gwarchod cŵn, gwarchod plant, a chymaint o bethau eraill”
Trefnydd y Cinio Mawr, 2024

3) Ymunwch â phlatfformau rhannu
Mae apiau fel Olio a Nextdoor yn ei gwneud hi’n hawdd rhannu. Beth am ddweud helo a phostio rhestr gyda’r hyn y gallai pobl ei fenthyg gennych chi neu ofyn a oes gan unrhyw un rywbeth sydd ei angen arnoch chi?
4) Dechreuwch lyfrgell o bethau
Boed gyda chymdogion, y stryd, neu’ch cymuned ehangach, mae creu rhestr gyfunol o’r offer a’r adnoddau sydd ar gael i’w benthyca yn gwneud rhannu yn syml. Cadwch restr i bawb allu ei diweddaru a’i chyrchu.
5) Cyfnewidiwch sgiliau a thalentau masnach
Nid offer y gellir ei rannu yn unig mohono! Mae pawb yn gwybod am rywbeth – boed yn goginio, crefftio, tasgau cynnal a chadw neu fathemateg. Mae rhannu sgiliau yn ffordd hwyliog o ddysgu rhywbeth newydd gydag eraill ac yn ffordd braf o roi rhywbeth yn ôl i’ch cymuned.
6) Mynd yr un ffordd?
Ydy plant eich cymydog yn mynd i’r un ysgol â’ch rhai chi neu a ydych chi’n gweithio yn yr un ardal â’r person dros y ffordd? Os felly, beth am drefnu i fynd i’r ysgol, y gwaith neu ar deithiau lleol ar y cyd – bydd yn arbed amser a chostau tanwydd, yn lleihau tagfeydd ac yn helpu’r blaned hefyd!
7) Cynhaliwch siop gyfnewid
O lyfrau i ddillad – mae cyfnewid yn ffordd hwyliog, cyfeillgar i’r blaned o adnewyddu’ch eiddo. Cadwch bethau’n syml gyda pharti bach gartref neu dewch â’ch cymuned gyfan at ei gilydd â digwyddiad siop gyfnewid.
8) Tyfwch gyda’ch gilydd
Mae gerddi cymunedol yn wych ar gyfer rhannu gofod, hadau, offer, blodau a bwyd gydag eraill. Os nad oes gennych randir i ymuno ag ef gerllaw, a allech chi drawsnewid darn o dir yn eich ardal yn ofod tyfu?
Dysgwch sut aeth Eugenie ati i drawsnewid mannau gwyrdd yn ei chymuned
O offer i undod!
Rhannu adnoddau, gwerthfawrogi caredigrwydd, a gofalu am y blaned – pa weithred fach allech chi ei gwneud i sbarduno rhannu yn eich cymdogaeth chi?
Cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr e-bost
Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr i gael syniadau hwyliog, gwybodaeth ddefnyddiol a straeon newyddion da ysbrydoledig.