10 ffordd o gyflwyno celf i’ch cymuned
I ddathlu ein mis ‘Calon Celf’, mae Jeni, ein Datblygwr Rhwydweithiau Cymunedol, wedi casglu’r deg ffordd orau o fod yn greadigol ac ychwanegu ychydig o liw i’ch cymuned. Os ydych yn awyddus i gael rhagor o wybodaeth am unrhyw un o’r rhain, cysylltwch â ni!

1) Bomiau edau
Mae bomiau edau yn ychwanegu ychydig o liw i’w cymunedau dros nos, a throi ardaloedd llwm a llwyd yn orielau cyhoeddus o gelf tecstilau. Mae dysgu gwnïo yn haws ac eich ymlacio’n fwy na’r disgwyl! Gall fod yn ffordd wych o gwrdd â phobl, hefyd, trwy grwpiau ‘Gwau a Sgwrs’. Gallwch arbed arian trwy ddatod hen siwmperi gwlân neu ofyn i bobl gyfrannu dillad. Does dim un ffordd benodedig o wneud hyn, dim ond eich bod yn aros yn ddiogel ac o fewn y gyfraith a pheidio ag achosi niwed i neb.
2) Arddangosfeydd celf cymunedol dros dro
Mynnwch ysbrydoliaeth gan Wyliau Bwgan Brain, sy’n ffordd wych o annog trigolion i rannu deunyddiau a sgiliau. Gall unrhyw un gymryd rhan, a gall y gymuned gyfan fwynhau’r arddangosfa, sydd yno am wythnos, yn aml. Rhannwch y syniad dros baned, i weld pa ymateb cewch chi. Pan fydd pobl yn dechrau cymryd diddordeb, siaradwch â chynghorydd lleol i gael cyngor a chymorth.
3) Trawsnewidiadau lled-barhaol
Gallwch greu arddangosfa rad trwy ddefnyddio mosaic. Mae crochenwaith a drychau wedi torri yn ddeunyddiau uwchgylchu gwych, ac yn cynhyrchu canlyniadau trawiadol. Os ydych yn trefnu rhywbeth y tu hwnt i’ch stepen drws eich hun, efallai bydd angen caniatâd gan y cyngor lleol a thrigolion lleol.
Mosaic wall mural in Liverpool, Eden Project Communities.jpg
4) Peintio wynebau
Mae peintio wynebau bob tro’n boblogaidd mewn digwyddiadau cymunedol, ac mae’n ffordd wych o gynnwys pobl ifanc a chreu celf corff campus dros dro. Os nad ydych chi’n siŵr sut i ddod o hyd i artist lleol, gallwch gysylltu â meithrinfa, ysgol neu ganolfan gymunedol leol, a ddylai fod â digon o awgrymiadau. Neu prynwch baent wyneb a drychau bach fel y gall plant greu eu campweithiau eu hunain!
5) Murluniau a graffiti
Chi fydd y Banksy nesaf os trowch eich stryd yn lleoliad lle gall pawb fwynhau celf. Mae graffiti a chelf stryd yn dod yn fwy ac yn fwy poblogaidd mewn cymunedau gwledig, yn ogystal â mewn dinasoedd. Does dim angen i’r gwaith celf fod yn barhaol; mae rhai artistiaid yn creu gweithiau ar ddarnau mawr o bapur gan ddefnyddio paent a dŵr, ac yn gludo’r gwaith celf ar wal, cyn gadael i’r tywydd ei ddileu yn raddol.
Mae gwrth-graffiti yn dod yn fwy poblogaidd erbyn hyn, lle mae’r llun yn cael ei greu trwy dynnu baw o wal i ddatgelu’r dyluniad. Mae’r effeithiau’n gallu bod yn drawiadol dros ben – a gall neb ddweud y drefn wrthych am lanhau wal!
Community art mural in Woolwich, Eden Project Communities.jpg
6) Graffiti mwsogl
Ffordd wyrdd o ychwanegu ychydig o liw i’ch cymdogaeth. Mae canllaw gwych i graffiti mwsogl ar wefan Instructables. Rhowch eich templed ar y wal a defnyddiwch frwsh paent i daenu’r ‘gymysgedd mwsogl’, sef llaeth enwyn, dŵr a siwgr.
Moss graffiti, Eden Project Communities.jpg
7) Uwchgylchu ac ailgylchu
Gallwch ddefnyddio pob math o eitemau i addurno a bywiogi eich ardal leol. Plannwch flodau mewn tebotau, bagiau llaw, welis, basgedi beiciau a hen duniau paent i ychwanegu lliw at eich stryd.
8) Gweithredu cyhoeddus
Mae arddangosfeydd yn ffordd bwerus ac effeithiol i drosglwyddo neges i’r cyhoedd. Mae gan gelf y gallu i gyrraedd pobl ar lefelau emosiynol dyfnach, a chyfleu’r hyn na allwch ei ddweud gyda ffeithiau plaen. Er enghraifft, yn Nhwrci, daeth cannoedd o bobl ynghyd i ail-beintio’r grisiau enfys, a gafodd eu gorchuddio gan baent llwyd gan yr awdurdod lleol, ar ôl i #resiststeps gyrraedd llawer o bobl ar Twitter.
9) Gŵyl Lliwiau
Mae Holi, yr ŵyl grefyddol Hindŵaidd, wedi ysbrydoli nifer o ddigwyddiadau poblogaidd yn y DU. Mae’r Colour Run yn ddigwyddiad rhedeg-loncian-cerdded 5km sy’n codi arian at nifer o elusennau, a gŵyl lliwiau ar y diwedd, gyda ffrwydradau llachar o bowdwr lliw, i hyrwyddo iechyd a hapusrwydd.
The Colour of Time at Cast Doncaster – photo James Mulkeen, Eden Project Communities 1000px.jpg
10) Addurno strydoedd
Mae addurno eich stryd ar gyfer digwyddiadau arbennig fel y Cinio Mawr yn gallu bod yn ffordd ddramatig, chwareus a hwyliog o fod yn greadigol. Gall pobl o unrhyw oedran a gallu wneud bynting, sy’n ffefryn mewn Ciniawau Mawr, a gallwch greu cadwyni papur o hen gylchgronau a thaflenni. Mae’n gwneud tipyn o wahaniaeth!
street-party-bunting.jpg
“Mae celf yn gwneud lles i’n cymunedau, ac mae cydweithio artistig yn brofiad sy’n creu cyfeillgarwch. Rydym yn gwneud celf gyda’n gilydd, nid yn unig oherwydd y newidiadau mae’n gallu eu hachosi i’r byd o’n cwmpas, ond oherwydd y ffordd mae’n ein newid ni’n fewnol.”
Tatiana Makovkin, Creative Resistance
Cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr e-bost
Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr i gael syniadau hwyliog, gwybodaeth ddefnyddiol a straeon newyddion da ysbrydoledig.