Cacen Bisgedi Siocled Clarence House
Cymerwyd y rysáit hyfryd hon am gacen bisgedi siocled o lyfr ‘A Royal Cookbook: Seasonal recipes from Buckingham Palace’ a ddefnyddir gan Clarence House. Gobeithiwn y byddwch yn mwynhau!
Cynhwysion
Ar gyfer y gacen:
- 225g bisgedi Rich Tea McVitie’s
- 115g menyn di-halen wedi’i feddalu
- 115g siwgr mân heb ei buro
- 115g siocled tywyll wedi’i dorri’n ddarnau (soledau coco isafrif 53%)
- 2 lwy de o ddŵr cynnes, neu rỳm tywyll os oes yn well gennych
Ar gyfer y ganache siocled:
- 125g siocled tywyll, wedi’i dorri’n ddarnau
- 125g hufen chwipio
Offer:
- Tun cacen metel 15cm siâp modrwy
Dull
Cam 1
Ar gyfer y gacen, paratowch y tun metel trwy ei iro gyda menyn a leinio’r ochrau a’r gwaelod gyda phapur pobi. Rhowch y tun wedi’i leinio ar silff bobi fflat a’i roi naill ochr am y tro.
Cam 2
Torrwch y bisgedi yn ddarnau bach, tua 1-2cm mewn maint. Peidiwch â’u rhoi mewn prosesydd bwyd – ni ddylai’r bisgedi fod fel briwsion.
Cam 3
Rhowch y menyn wedi’i feddalu a’i siwgr mewn powlen a’u corddi yn hufen tan fod y gymysgedd yn ysgafn.
Step 4
Toddwch y siocled naill ai yn y microdon neu dros sosban o ddŵr sy’n mudferwi. Pan fydd wedi toddi, arllwyswch y siocled i mewn i’r gymysgedd menyn a siwgr a chymysgwch y cwbl yn drwyadl.
Yn olaf, ychwanegwch y dŵr neu rỳm ac yna’r bisgedi wedi’u torri’n ddarnau.
Cymysgwch y cyfan yn dda er mwyn sicrhau bod yr holl ddarnau o fisgedi wedi’u gorchuddio gyda siocled.
Step 5
Rhowch y gymysgedd yn y tun wedi’i leinio a gwthiwch y gymysgedd i lawr yn ofalus ond yn gadarn i greu arwyneb llyfn. Rhowch y gacen yn yr oergell i oeri tan fod y siocled yn caledu. Gallai hyn gymryd hyd at 30 munud.
Step 6
I baratoi’r ganache ar gyfer y gacen, rhowch y siocled wedi’i dorri’n ddarnau mewn powlen ac arllwyswch yr hufen chwipio i mewn i sosban. Mudferwch yr hufen a’i arllwys dros y darnau o siocled.
Carefully stir until the chocolate has completely melted and the ganache is smoothly blended.
Step 7
I baratoi’r ganache ar gyfer y gacen, rhowch y siocled wedi’i dorri’n ddarnau mewn powlen ac arllwyswch yr hufen chwipio i mewn i sosban. Mudferwch yr hufen a’i arllwys dros y darnau o siocled.
Step 8
Gorchuddiwch y gacen bisgedi siocled yn ofalus gyda’r ganache cynnes, gan sicrhau bod yr holl gacen wedi’i orchuddio. Gadewch y gacen i oeri’n llwyr cyn ei symud i blât gweini a’i addurno fel y mynnwch.