Trefnwch wythnos Caru Eich Cymuned/Love Where You Live
Rhannwch y pethau gorau am eich cymdogaeth ac anogwch deimlad o falchder lleol yn eich cyd-drigolion. Anogwch eich cymuned leol i rannu eu hoff lefydd ac i edrych ar ble maen nhw’n byw o’r newydd, gydag wythnos Caru Eich Cymuned/Love Where You Live.
Beth fydd ei angen arnoch
- Rhywbeth i dagio’r llefydd arbennig, fel bod modd i bobl eraill ddod o hyd iddynt. Gallwch ddefnyddio labeli bagiau, darn o ruban – unrhyw beth y gallwch ei dynnu oddi yno heb achosi difrod
- Hysbysebu a lle i ddosbarthu’r tagiau, neu eu rhoi mewn amlen gyda chyfarwyddiadau a’u postio trwy flwch llythyrau eich cymdogion
- Tagiau enghreifftiol i ddechrau pethau: tagiwch rhai o’ch hoff lefydd yn eich ardal leol, gall fod yn goeden, darn o graffiti, lle mae’r goleuni’n taro man arbennig ar adeg benodol o’r dydd, lle mae plant yn chwarae neu hen wal.
Cyfarwyddiadau
Dewiswch wythnos neu fis i gynnal y gweithgaredd. Os ydych chi’n gwneud hyn dros yr haf, mae’n bosibl y bydd yr Wythnos Caru Parciau flynyddol yn amser da – a gallwch rannu a hysbysebu eich gweithgareddau ar eu gwefan.
Hysbysebwch y dyddiadau o flaen llaw.
Efallai gallwch lansio yn eich digwyddiad Y Cinio Mawr?
Anogwch bobl i dynnu lluniau a’u postio ar Instragram, Twitter neu Facebook gan ddefnyddio’r hashnod #lovewhereyoulive neu #carueichcymuned neu #carucaerdydd neu #caruceredigion (gallwch greu cyfrif cyfryngau cymdeithasol yn arbennig ar gyfer eich cod post neu gymuned i’w ddilyn). Ar ddiwedd yr wythnos neu’r mis, atgoffwch bobl i dynnu eu tagiau ac ewch i’w clirio, rhag ofn.
Os ydych yn dymuno gwneud hynny, sefydlwch ardal ganolog lle gall pobl ysgrifennu eu dymuniadau a’u breuddwydion ar gyfer yr ardal – tagiau dros ganghennau coeden, nodiadau papur ar wal neu ysgrifennu ar fwrdd sialc.
Os yw digwyddiad wythnos o hyd yn ymddangos yn ormod i ddechrau, beth am ddechrau trwy wneud hyn fel gweithgaredd cyfrinachol? Bydd llenwi eich cymuned â nodiadau yn mynegi eich cariad at yr ardal yn codi gwên ac yn llenwi’r gymuned â balchder.