GOLEUWCH EICH STRYD GYDA SILWÉT MAWREDDOG

Trwy gydol misoedd y gaeaf, mae'n bwysig cadw ein cymunedau i ddisgleirio. Un ffordd hawdd a hwylus o wneud hyn, y gall pawb ei wneud, yw creu arddangosfa ffenest yn eich cartref ac annog pawb i gymryd rhan!

Hongiwch oleuadau neu lun, byddwch yn greadigol gyda sialc... dewch o hyd i'r artist cudd ynoch chi ac ychwanegwch ychydig o lawenydd i ddiwrnod y sawl sy'n cerdded heibio.

Un o'n hoff ffyrdd o drawsnewid ffenestri yw gyda silwetau syml. Mae syniadau ac ysbrydoliaeth wych ar Window Wanderland, neu dyma sut i greu eich arddangos hudol eich hun...

Cliciwch yma i lawrlwytho ac argraffu eich silwetau.

  • Cerdyn du
  • Papur trasio (os ydych yn copïo dyluniad)
  • Papur sidan lliw (dewisol)
  • Pensil
  • Siswrn neu gyllell finiog iawn
  • Glud
  • Tâp neu blu tack
Dewiswch beth hoffech chi greu silwét ohono a lle bydd yn mynd. Mae'n bosib y byddwch yn dewis gwneud un mawr a mesur eich holl ffenestr neu'n gwneud rhywbeth llai i gychwyn. Cofiwch ddewis man bydd pobl yn gallu gweld wrth iddynt gerdded heibio.
Tynnwch eich siâp ar y cerdyn du. Gallwch naill ai wneud silwét bloc neu rywbeth mwy cywrain gyda rhannau wedi'u torri allan (fel tŷ gyda ffenestri).

Os ydych chi'n cael trafferth yn meddwl am syniadau neu eich bod eisiau creu rhywbeth yn sydyn, beth am lawrlwytho ac argraffu ein templed a thorri allan neu drasio'r dyluniad ar gerdyn du.

Gan ddefnyddio siswrn neu gyllell finiog iawn, torrwch allan eich siâp ac unrhyw fanylion yn ofalus iawn.

Gan ddibynnu ar eich dyluniad, torrwch a gludo'r papur sidan ar gefn eich cerdyn i lenwi unrhyw fylchau fel ffenestr wydr lliw.

Defnyddiwch dâp neu blu tack i roi eich dyluniad ar y ffenestr (gan sicrhau ei fod yn wynebu tuag allan). Wrth i'r noswaith dywyllu, trowch eich goleuadau ymlaen, camwch du allan i weld eich dyluniad yn disgleirio'n llachar.

Buasem wrth ein yn gweld eich ffenestri hyfryd, cofiwch rannu eich lluniau gyda ni ar @edencommunities.