Twmplen Clootie Albanaidd Dad-cu Gráinne

Twmplen Clootie Albanaidd Dad-cu Gráinne

Scottish Cloutie Pudding
Mae'r Dwmplen Clootie wedi bod yn rhan hanfodol o'r Nadolig a'r Flwyddyn Newydd yng nghartrefi'r Alban ers y 18fed ganrif.

Mae'n fersiwn ysgafnach o bwdin Nadolig, wedi'i wneud o ffrwythau sych, sbeis, blawd ceirch neu friwsion bara, blawd, a siwet cig eidion (neu fersiwn fegan amgen) ac wedi'i ferwi mewn lliain (naill ai mwslin neu gas gobennydd gwyn!), a elwir yn Cloot. Dyma fersiwn modern ar y rysáit, wedi'i wneud mewn popty araf ac rydyn ni wedi rhoi opsiynau i chi gyda basn pwdin neu hebddo.

Os ydych chi'n ei goginio'n uniongyrchol yn y popty araf, gallwch chi wneud eich Clootie yn fwy, ond byddwch yn ymwybodol na fydd ganddo groen arno os byddwch yn defnyddio'r dull hwn! 

Roedd tad-cu ein rheolwr rhanbarthol yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, Gráinne, yn dod o Blantyre ac mae ganddi atgofion melys o gael hwyl mewn cegin llawn stêm wrth i'r Clootie goginio!

Gweinwch yn boeth gyda chwstard, neu hufen gydag ychydig lwyau o siwgr brown wedi'i gymysgu i mewn - fel y gwnaeth tad-cu Gráinne. Storiwch unrhyw fwyd dros ben wedi'i sleisio mewn cynhwysydd wedi'i selio a'u rhoi yn microdon neu eu ffrio i'w gweini fel y dymunwch, gydag ychydig o siwgr.

Cynhwysion

  • 350g o ffrwythau sych cymysg
  • 110g siwgr mân
  • 220ml o ddŵr
  • 110g o fenyn
  • 1 llwy de o soda pobi
  • 1 llwy de o sbeis cymysg
  • 1/2 llwy de o sinamon
  • 1/2 llwy de o nytmeg
  • 2 wy wedi'u curo
  • 110g blawd plaen
  • 110g blawd codi

Dull

Rhowch y ffrwythau sych, siwgr, dŵr, menyn, sbeisys a soda pobi mewn padell a dod â nhw i'r berw.
Mudferwch y cyfan am ryw 10 munud. Rhowch o'r neilltu nes yn gynnes.
Ychwanegwch yr wyau, ychydig ar y tro bob yn ail â llwyeidiau o'r blawd. Cymysgwch yn dda.
Opsiwn 1: Defnyddio basn pwdin y tu mewn i'ch popty araf
  1. Irwch y tu mewn i'r basn pwdin gyda menyn
  2. Rhowch lwy fwrdd o flawd yn y basn a'i symud o gwmpas i orchuddio'r ochrau. Cofiwch gael gwared ar unrhyw flawd dros ben.
  3. Rhowch y cymysgedd yn ofalus i'r basn pwdin.
  4. Gorchuddiwch y bowlen naill ai gyda gorchudd powlen silicon y gellir ei hailddefnyddio neu gyda phapur memrwn a ffoil, wedi'i bletio yn y canol a'i glymu o amgylch y bowlen.
  5. Rhowch drybedd neu soser gwrth-wres ar waelod eich popty araf, rhowch y bowlen wedi'i gorchuddio ar ben y trybedd. 
  6. Arllwyswch ddŵr berwedig o'r tegell yn araf nes bod y dŵr tua 2 fodfedd i fyny ochr y bowlen.
Opsiwn 2: Coginio'n uniongyrchol yn eich Popty Araf
  1. Irwch ochrau a gwaelod y popty araf a leiniwch y gwaelod a'r ochrau â phapur pobi.
  2. Arllwyswch y gymysgedd yn syth i'r popty araf.
  3. Ychwanegwch 50ml o ddŵr poeth ar ei ben a rhowch y caead ar i goginio. 
Coginio

Mae'r ddau ddull coginio yn cymryd tua'r un hyd o amser. Coginiwch ar Uchel am 2 1/4 - 2 1/2 awr. Profwch gyda sgiwer ac os daw allan yn lân mae'r pwdin yn barod. Trowch allan ar blât a rhowch ysgytwad o siwgr eisin arno, os dymunwch. Gweinwch gyda chwstard neu hufen. 

 

Bydd y rysáit hwn yn ychwanegiad gwych at eich Cinio Mawr adeg Dolig neu ddathliadau eleni. Eisiau rhagor o ysbrydoliaeth ar gyfer eich digwyddiad? Edrychwch ar ein canllaw ac adnoddau Cinio Mawr adeg Dolig rhad ac am ddim a syniadau Bwyd a Diod y Nadolig i'ch helpu chi ar eich ffordd!