Te a Bisgedi Pryia ar gyfer y Cinio Mawr (Cwcis siocled a Chai)
Oherwydd y cyfyngiadau symud, rydw i a Mam wedi bod yn gwneud Chai yn ein ceginau ein hunain ond ar yr un pryd. Mae'n gwneud i ni deimlo'n agosach at ein gilydd. Yn gwneud 25 - 30.
Cynhwysion
Ar gyfer y cwcis
- 125g menyn di-halen
- 80g siwgr gronynnog
- 140g siwgr brown meddal
- 1 ŵy mawr
- 220g blawd codi
- Pinsiad o halen
- 1 llwy de o fanila
- 200g darnau bach o siocled
- 50g cnau pecan wedi'u torri'n ddarnau bach (dewisol)
Ar gyfer y chai
Dyma rysáit fy nheulu ar gyfer Masala Chai. Te Indiaidd yw Chai sy'n cael ei ferwi mewn sosban yn llawn sbeisys cynnes, melys. Dyma oedd yr unig de i mi ei yfed tan fy ugeiniau bron ac rwy'n mwynhau'r broses o'i wneud. Dyma'r peth cyntaf rydw i eisiau gwneud pan ddydw i ddim yn teimlo'n rhy dda neu os ydw i jyst eisiau ychydig o gysur cartref. Gallwch hefyd ddefnyddio'r gymysgedd o sbeisys yn yr un modd ag y byddech yn defnyddio unrhyw sbeisys mâl - rydw i wedi ei defnyddio mewn bara, cacennau, cwcis a hyd yn oed mewn hufen menyn. Gallwch hefyd addasu'r sbeisys at eich blas.
- 1.5 llwy de o gardamom mâl
- ½ llwy de o sinsir mâl
- ½ llwy de o sinamon mâl
- 1/8 llwy de o glofs mâl (pinsiad!)
- ¼ llwy de o bupur gwyn mâl*
- ¼ llwy de o nytmeg
- *Mae pupur du yn iawn os nad ydych yn gallu dod o hyd i bupur gwyn
- 2 fag te du/te du dail rhydd
- 2-3 llwy de o siwgr
- 300ml o ddŵr
- 130ml o laeth (rwy'n defnyddio llaeth cyflawn)
Bydd hefyd angen arnoch:
- Sosban fach
- Rhidyll/hidlydd bach
Dull
Awgrymiadau:
- Mae'r cwcis hyn yn lledaenu'n fawr felly mae angen eu gwneud mewn sypiau, paratowch ail silff gyda phapur gwrthsaim i'w roi yn y ffwrn i gyflymu'r broses (fel arall, sicrhewch fod eich silff bobi wedi oeri cyn coginio'r swp nesaf)
- Gallwch ddefnyddio smarties neu wyau bach wedi'u malu yn lle darnau bach o siocled - mae'r plant yn mwynhau'r rhain!
Awgrymiadau:
Os ydych yn hoffi sinsir, gallwch ychwanegu ychydig o sinsir ffres yn ystod Cam 3. Os ydych chi eisiau defnyddio llaeth o blanhigion, mae hynny'n iawn. Byddai llaeth ceirch yn ddewis da gan ei fod yn weddol drwchus ond byddai unrhyw fath yn iawn, ond cofiwch na fyddai angen i chi ferwi'r gymysgedd am gyn hired yng Ngham 3. Rhowch y sosban i socian yn syth ar ôl arllwys eich te - mae'n gwneud y golchi llestri lawer haws! Os nad oes gennych chi hidlydd, defnyddiwch fagiau te ond bydd angen i chi gymysgu'r cyfan yn y sosban ychydig yng ngham 1 i helpu mwydo'r te.
For more recipes from Pryia, go to: Pryia O’Shea on Twitter/Insta @pryiaoshea