1/2

o bobl y DU yn fodlon rhoi bwyd i’r rhai mewn angen*

1/4

o bobl y DU yn fodlon coginio i rywun sy’n cael trafferth*

0

o brosiectau cymunedol newydd o ganlyniad i Wersyll Cymunedol

Sut i gychwyn prosiect cymunedol

Os ydych chi’n angerddol am gael effaith gadarnhaol yn eich cymuned, beth am ddechrau eich prosiect eich hun? Mae yna bobl wych yn union fel chi wrth galon llawer o fentrau cymunedol, yn cynnig cefnogaeth ac yn lledaenu caredigrwydd bob dydd. 

Mae gennym ni ganllawiau ymarferol, ysbrydoliaeth a rhwydwaith cymorth llawn i’ch helpu i roi cychwyn ar eich prosiect. P’un a oes angen cyngor arnoch ar ariannu, dod o hyd i wirfoddolwyr neu jyst rhywun i sgwrsio â nhw am eich syniadau, dechreuwch ar eich prosiect cymunedol heddiw.  

 

Cychwyn arni

Two women talking

Dewch o hyd i ariannu ar gyfer eich prosiect cymunedol

Mae llawer o brosiectau cymunedol gwych yn cael eu cyflawni gydag ychydig neu ddim arian, ond os oes angen chwistrelliad o arian ar eich un chi – mae ein hawgrymiadau a’n canllawiau codi arian yma i helpu! 

 

Dewch o hyd i gyngor ariannu

Ein rhwydwaith ar lawr gwlad

Oes gennych chi syniad i gefnogi eich cymuned, ond ddim yn siŵr sut i ddechrau? Mae gennym dîm anhygoel o Ddatblygwyr Rhwydwaith Cymunedol, sy’n gweithio mewn rhanbarthau ledled y DU i’ch helpu i ddod â’ch syniadau’n fyw.

P’un a ydych angen cyngor, adnoddau neu ddim ond rhywun i sgwrsio â nhw, maen nhw ar ben e-bost neu’r ffôn. Gallant hefyd eich helpu i gwrdd â phobl eraill o’r un anian yn agos atoch chi! 

Dechreuais gredu bod yr hyn a wnes i yn bwysig, bod pwrpas iddo, ac fe wnaeth wahaniaeth cadarnhaol i’n cymuned.