Pavlova Mafon Fegan, gan Freya Cox
"Os ydych yn edrych am bwdin syfrdanol i greu argraff ar unrhyw un, yn enwedig y rhai nad ydynt wedi'u hargyhoeddi gan fwyd fegan eto, dyma'r dewis perffaith. Nid yw'n cymryd llawer o ymdrech gan fod y rhan fwyaf o'r amser yn cael ei dreulio yn pobi'r pavlova ac yn ei adael i oeri. Gallwch chi ychwanegu pa bynnag dopins mynnwch chi, mae'n bwdin i blesio pawb!"
CYNHWYSION
Ar gyfer y pavlova:
- 150ml aquafaba (gallwch ddraenio’r dŵr o ganiau o ffacbys ar gyfer hyn a rhewi’r ffacbys i’w ddefnyddio nes ymlaen)
- ½ llwy de o hufen tartar
- 150g siwgr mân
- ½ llwy de o gwm xanthum
Ar gyfer y coulis mafon:
- 150g mafon ffres
- 1-2 llwy fwrdd o siwgr eisin
- Ar gyfer y topin:
- 100ml hufen dwbl fegan - dwi'n hoffi brand Oatly Whippable
- 25g siwgr eisin
- Llond llaw o fafon ffres
Tynnwch lun o amgylch plât cinio maint canolig, neu rywbeth tebyg, i greu cylch tua 23cm yn fras. Yna defnyddiwch wydr i dynnu cylch llai y tu mewn i'r un mwy.
I gael y canlyniadau gorau, defnyddiwch gymysgydd sefydlog wedi'i ffitio ag atodiad balŵn arno os oes gennych chi un gan ei fod yn llawer mwy pwerus na chwisg trydan llaw.
Unwaith y bydd yn cyrraedd y cam hwn, trowch y cymysgydd i lawr i gyflymder canolig ac ychwanegwch y siwgr mân un llwy ar y tro, gan wneud yn siŵr bod pob llwy wedi'i ymgorffori'n llawn cyn ychwanegu un arall.
Rhowch yn y popty am 2 awr 30 munud, yna ar ôl ei bobi gadewch ddrws y popty ar gau ond trowch y popty i ffwrdd gan adael y pavlova y tu mewn nes ei fod yn gwbl oer.
Hidlwch y cymysgedd i mewn i jwg gan dynnu'r holl hadau. Os nad oes gennych chi brosesydd bwyd gallwch stwnsio'r mafon gyda stwnsiwr tatws nes eu bod yn llyfn. Yna, ychwanegwch y siwgr eisin cyn rhoi'r gymysgedd trwy ridyll nes ei fod yn llyfn.
Arllwyswch lond lwyau o'r coulis drosto, yna rhowch y mafon ffres ar draws y top i orffen. Ychwanegwch y topins jyst cyn i chi weini'r pavlova gan y bydd yr hufen yn ei wneud yn feddal dros amser. Mwynhewch!
Diolch yn fawr unwaith eto i Freya am rannu'r pavlova mafon fegan blasus hwn.
Beth am roi cynnig ar y pavlova hwn ar gyfer achlysur arbennig fel Y Cinio Mawr / Y Cinio Mawr Jiwbilî? Os nad ydych wedi gwneud eisoes, mynnwch eich pecyn am ddim heddiw!