Diod Eirin Duon Bach
Beth am roi cynnig ar y rysáit hon am ddiod ysgafn eirin duon bach y gallwch ei defnyddio mewn moctel neu fel diod flasus unrhyw adeg o’r diwrnod.
Am ddewis alcoholaidd, rhowch gynnig ar y rysáit hon am jin eirin duon bach!
Cynhwysion
- 1kg eirin duon bach
- 1 litr o ddŵr
- Sudd 1 lemwn
- 80g o siwgr gronynnog fesul 100ml o hylif
Bydd hefyd angen arnoch liain mwslin.
Dull
Cam 1
Dewch â’r eirin duon bach, y dŵr a’r sudd lemwn i’r berw a’i mudferwi am 5 munud
Cam 2
Defnyddiwch lwy bren neu stwnsiwr tatws i wasgu’r eirin duon bach wedi’u coginio, peidiwch â phoeni am y cerrig oherwydd byddwch yn eu hidlo allan nes ymlaen
Cam 3
Pan fyddwch wedi gwasgu’r eirin duon bach, mudferwch y cyfan am 10 munud arall
Cam 4
Arllwyswch y gymysgedd trwy hidlydd. Os hoffech i’ch diod fod yn glir, defnyddiwch fwslin i leinio’r hidlydd a pheidiwch â gwthio’r mwtrin drwodd. Fodd bynnag, os ydych chi eisiau ychydig o liw, peidiwch â defnyddio mwslin
Cam 5
Nesaf, bydd angen i chi fesur y sudd i gyfrifo faint o siwgr sydd ei angen (80g fesul 100ml)
Cam 6
Glanhewch y sosban ddefnyddioch chi, arllwyswch y sudd yn ôl i mewn, ychwanegwch y siwgr a’i gynhesu’n araf bach tan i’w siwgr doddi’n llwyr
Cam 7
Pan fydd wedi toddi, dewch â’r gymysgedd i’r berw a’i fudferwi am 10 munud arall. Pan fydd y ddiod wedi oeri, gallwch ei roi mewn poteli a’i defnyddio pryd fynnoch chi
Ffynhonnell – https://www.farmersgirlkitchen.co.uk/homemade-christmas-gifts-sloe-cordial/