Cwcis Siwgr Marblis Martha Collison
Hynod flasus a byddan nhw'n edrych mor giwt ar unrhyw fwrdd Cinio Mawr. Maen nhw'r maint perffaith i'w lapio fel anrhegion i'ch cymdogion neu ffrindiau hefyd!
Cynhwysion
Yn gwneud tua 30
- 100g siwgr mân
- 175g o fenyn
- 1 melynwy
- 300g blawd plaen
- croen 1 lemwn
Ar gyfer yr Eisin Caled
- 1 gwynnwy
- 150g siwgr eisin
- 1 llwy de o sudd lemwn
- ychydig llwy de o ddŵr
- Lliw bwyd gel
Dull
Cam 1
Cyfunwch y siwgr a’r menyn gyda’i gilydd mewn powlen gymysgu fawr nes ei fod yn llyfn, yna ychwanegwch y melynwy (cadwch y gwynnwy ar gyfer yr eisin) a’i gymysgu eto.
Cam 2
Ychwanegwch y blawd a’r croen lemwn i’r toes, yna cadwch ati i gymysgu nes i chi gael toes meddal. Defnyddiwch eich dwylo i dylino’r toes a’i siapio i mewn i bêl, yna’i lapio mewn haenau glynu a’i oeri am 15 munud.
Cam 3
Cynheswch y ffwrn i 160C/marc nwy 3. Leiniwch dwy silff bobi fawr gyda phapur pobi. Taenwch ychydig flawd ar eich arwyneb gwaith a rholiwch y toes allan i drwch darn punt. Torrwch eich hoff siapiau a’u rhoi ar y silff bobi.
Cam 4
Pobwch y bisgedi am 12-14 munud, nes eu bod yn dechrau troi’n euraidd ar yr ymylon. Ni fyddant yn teimlo’n greisionllyd ond byddant yn caledu wrth iddynt oeri.
Cam 5
I wneud yr eisin, defnyddiwch chwisg drydan i chwipio’r gwynnwy yn gopaon meddal. Ychwanegwch hanner y siwgr eisin a’i chwisgio i gyfuno, yna ychwanegwch y siwgr a’r sudd lemwn sy’n weddill. Chwipiwch y cyfan am 8-10 munud nes ei fod yn stiff iawn.
Cam 6
Unwaith y bydd yr eisin yn stiff, dechreuwch ychwanegu’r dŵr, 1 llwy de ar y tro i lacio’r eisin. Gan ddefnyddio sgiwer, dotiwch ychydig o liwiau bwyd o wahanol liwiau ar ben yr eisin, yna chwyrlïwch nhw gyda’i gilydd.
Cam 7
Trochwch fisgïen wyneb i lawr yn yr eisin, ysgytiwch unrhyw ormodedd i ffwrdd a’i adael i galedu ar silff oeri. Ailadroddwch y broses gyda gweddill y bisgedi. Gadewch iddynt galedu am o leiaf 12 awr, dros nos os yn bosib, cyn eu mwynhau!
Photo credit Laura Edwards, HarperCollins