Mae gwahanol grwpiau yn ein cymuned mewn mwy o berygl ac mae unigrwydd cymdeithasol ac unigedd yn bryderon i bobl o bob oedran.
Tra bod cadw cysylltiadau rhwng cymdogion yn hanfodol, mae isadeiledd lleol cyfredol ac elusennau wedi'u hen sefydlu ac yn barod i gefnogi pobl agored i niwed a/neu ynysedig.
Cofiwch, mae'n bosib nad yw'n amlwg pwy yw'r 'bobl agored i niwed' yn eich ardal - nid yw'n golygu pobl hŷn neu'r sawl gydag anabledd gweladwy yn unig. Meddyliwch am bobl, o bob oedran, sy'n byw ar eu pennau eu hunain, sydd â chyflyrau iechyd eraill neu nad sy'n siarad Saesneg fel iaith gyntaf.
Dyma sut gallwch chi gefnogi pobl agored i niwed neu ynysedig yn eich cymuned...
Mae digonedd o ffyrdd y gallwch gyfrannu eich help, gan gynnwys trwy wirfoddoli:
Gwirfoddolwch i gefnogi'r frwydr yng Nghymru.
Mae Gwirfoddoli Cymru yn trefnu gwirfoddoli.
Mae yna wybodaeth ar gyfer elusennau a sefydliadau gwirfoddol ar CGGC.
Cofrestrwch i alw pobl unig ac ynysedig trwy Re-engage.
Ymunwch â chynllun gwirfoddolwyr cymunedol wrth gefn Y Groes Goch Brydeinig.
Mae cefnogi pobl, bod yn gymdogol a rhoi eich amser i le neu achos rydych chi'n angerddol am yn cysylltu pobl a chymunedau ac yn gwneud cymdeithas yn gryfach. Mae'r adroddiad byr hwn yn sôn am y gwahaniaeth rhwng gwirfoddoli 'ffurfiol' ac 'anffurfiol', a gwerth y ddau.
Dyma rhai ffyrdd y gallwch helpu pobl yn eich cymuned:
Rhoddwch fwyd i'ch banc bwyd lleol. Mae angen cefnogaeth a chyflenwadau sylfaenol mwy nag erioed. Chwiliwch am fanc bwyd lleol y Trussell Trust yma, mae'n bosib bod yna rai eraill yn eich ardal chi hefyd, gofynnwch beth sydd eu hangen arnynt fwyaf - ac ystyriwch roi rhodd ariannol os gallwch chi.
Gallwch hefyd rannu bwyd dros ben gyda chymdogion gan ddefnyddio ap OLIO.
Rhoddwch i apêl Coronafeirws yr Ymddiriedolaeth Argyfyngau Cenedlaethol, i helpu cymunedau sy'n eu cael hi'n anodd ledled y DU.
Cadwch mewn cysylltiad gyda ffrindiau, aelodau o'r teulu a chymdogion. Cysylltwch â nhw'n aml i weld sut maen nhw. Codwch y ffôn, anfonwch lythyr neu defnyddiwch alwad fideo os gallwch chi. Dyma rhai ffyrdd eraill y gallwch chi gadw mewn cysylltiad.
Mae gan yr Ymgyrch i Roi Terfyn ar Unigrwydd rai awgrymiadau gwych ar sut i helpu pobl unig neu ynysedig a effeithir arnynt gan Covid-19.
Mae dros 15 miliwn o bobl naill ai ddim ar-lein neu'n methu bod ar-lein yn rheolaidd. Mae Community Organisers wedi lansio ymgyrch i greu'r rhwydwaith diwifr agored, mwyaf, am ddim i'w defnyddio ar gyfer cymunedau yn ystod achosion o Covid-19, gallwch ddarganfod mwy am #OperationWiFi yma.
Mae gan y Ganolfan Cyngor ar Bopeth adnoddau i helpu pobl sy'n cymryd eu Camau cyntaf ar-lein ac mae gan Get Safe Online gyngor ar sut i osgoi sgiâmiau a chadw'n ddiogel tra bod mwy ohonom ar-lein am fwy o amser yn gweithio neu'n cymdeithasu.
Mae OLIO wedi lansio #Cook4Kids i helpu sicrhau na fod unrhyw blentyn yn mynd heb fwyd tra bod yr ysgolion ar gau. Beth am gymryd rhan!
Os ydych chi'n gwirfoddoli neu'n bwriadu gwneud, mae'n bwysig eich bod yn cymryd eich diogelu eich hun ac eraill o ddifrif. Dyma rhai pethau i'w cofio:
Peidiwch â datgelu gwybodaeth bersonol (amdanoch chi neu bobl eraill) heb ganiatâd.
Rhowch wybod i deulu a ffrindiau am eich cynlluniau.
Cadwch yn ddiogel; peidiwch â mynd i gartrefi pobl eraill a chadwch o leiaf 2 fetr i ffwrdd o bobl eraill.
Os ydych chi'n poeni am blentyn neu oedolion agored i niwed, rhowch wybod i wasanaethau cymdeithasol neu ffoniwch 999.
Dyma ychydig wybodaeth ddefnyddiol ar ddiogelu gan The National Food Service ar gyfer grwpiau sy'n cefnogi ei gilydd yn ystod Covid-19.
Pwysicach oll; Gofalwch ar ôl eich hun - cofiwch fwyta, yfed, cysgu ac ymarfer corff. Bydd yn eich helpu i gadw'n iachus ac i gefnogi eraill.
Doctors of the World UK, have created Coronavirus resources and guidance based on the government’s updated advice and health information, in 21 different languages.
Mae cefnogi pobl, bod yn gymdogol a rhoi eich amser i le neu achos rydych chi'n angerddol am yn cysylltu pobl a chymunedau ac yn gwneud cymdeithas yn gryfach. Mae'r adroddiad byr hwn yn sôn am y gwahaniaeth rhwng gwirfoddoli 'ffurfiol' ac 'anffurfiol', a gwerth y ddau.