Skip to content

 

 

Miliynau’n dathlu Cinio Mawr y Coroni

Mae’r rhifau i mewn… cymerodd bron i 1 o bob 5 o bobl ran yn nathliadau’r Coroni gyda Chinio Mawr y Coroni!

0.00 miliwn

Daeth 13.4 miliwn at ei gilydd i ddathlu’r Coroni

1 o bob 5

Cymerodd bron i 1 o bob 5 o bobl ran

£ 0.00 m

Codwyd £14.4m at achosion da, 75% ohonynt yn lleol


Uchafbwyntiau Cinio Mawr y Coroni

Mae cymuned yn bwysicach nag erioed

Mae llwyddiant Cinio Mawr y Coroni yn tynnu sylw at werth dod â chymunedau yn agosach at ei gilydd a chefnogi achosion da.

Nododd arolwg barn YouGov ym mis Ebrill 2023 awydd eang i wneud mwy yn y gymuned.

  • Mae mwy na hanner y bobl (54%) eisiau rhoddi arian, bwyd neu nwyddau yn eu cymuned ond yn teimlo’n llai abl i gefnogi nawr nag yr oeddent flwyddyn yn ôl, oherwydd cynnydd mewn costau byw.

 

  • Mae tri o bob pedwar oedolyn yn y DU (78%) yn credu bod elusennau lleol, gwirfoddolwyr a chymdogion caredig yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi pobl trwy gyfnodau anodd.

 

  • Dywed 80% y byddai’r wlad yn ei chael hi’n anodd ymdopi heb waith a wneir gan wirfoddolwyr.

 

  • Mae chwech o bob deg (60%) ohonom yn pryderu am ragolygon ein cymuned ar gyfer y dyfodol.

Cymerwch ran

Efallai bod Cinio Mawr y Coroni drosodd, ond mae digon o ffyrdd o gymryd rhan o hyd! Cynhaliwch Ginio Mawr yn ystod Mis y Gymuned ym mis Mehefin neu beth am fynychu digwyddiad cymunedol.

“Rwy’n annog pawb, o unrhyw oed, i gael Cinio Mawr – gallai fod yn bicnic, yn de parti, yn bryd o fwyd wrth y bwrdd. Y rysáit perffaith ar gyfer hwyl, i gwrdd â phobl newydd a chefnogi achos da. Ewch amdani, pam lai!”

Dame Prue Leith