Coronau gwyllt y coroni: cystadleuaeth lluniau
I gydnabod pryder Ei Fawrhydi'r Brenin a'i Mawrhydi'r Frenhines Gydweddog am yr amgylchedd a gan gymryd ysbrydoliaeth o'n cynlluniau gwersi rhad ac am ddim, rydym yn galw ar blant ledled y DU i wneud 'Coronau Gwyllt' o ddeunyddiau naturiol ac wedi'u hailgylchu a'u gwisgo nhw â balchder i ddathlu Cinio Mawr y Coroni!

I gydnabod pryder Ei Fawrhydi’r Brenin a’i Mawrhydi’r Frenhines Gydweddog am yr amgylchedd a gan gymryd ysbrydoliaeth o’n cynlluniau gwersi rhad ac am ddim, rydym yn galw ar blant ledled y DU i wneud ‘Coronau Gwyllt’ o ddeunyddiau naturiol ac wedi’u hailgylchu a’u gwisgo nhw â balchder i ddathlu Cinio Mawr y Coroni!
Y Gystadleuaeth a’r Gwobrau
- Bathodyn Cinio Mawr y Coroni Pawprint a Chanllaw i Anthem Genedlaethol y DU, wedi’i ddarlunio’n hyfryd gan Rosie Brooks sy’n adnabyddus am ddarlunio gitâr Syr Paul McCartney.*
- Bydd un enillydd lwcus hefyd yn derbyn taleb bwyd y Cinio Mawr gwerth £50 i brynu cyflenwadau gan ein Partner, Iceland, ar gyfer Cinio Mawr y Coroni eu cymuned!* *
- Mae gwobr bellach yn cynnig Gweithdy Digidol i Ysgol a gyflwynir gan Dîm Ysgolion Eden Project ar bynciau allweddol Eden Project – y goedwig law, cynaliadwyedd trwy fwyd, a hinsawdd i ysgol gynradd a ddewisir ar hap sy’n cofrestru eu digwyddiad Cinio Mawr y Coroni ar fap Y Cinio Mawr. * **
Sut i ymgeisio
Mae’r gystadleuaeth yn agored i blant 16 oed ac iau ac mae cymryd rhan yn syml.
1) Mwynhewch wrth wneud eich Coron Wyllt
- Gan ddefnyddio stribed o gerdyn tenau (digon hir i ffitio o amgylch eich pen), atodwch ddau stribed o dâp gludiog dwy ochr.
- Ewch allan i fyd natur a dewch o hyd i enghreifftiau hardd o wrthrychau naturiol (fel dail, petalau a brigau) i lynu wrth eich coron.
- Meddyliwch yn ofalus am y gwrthrychau rydych chi’n eu pigo, peidiwch â chymryd mwy nag un o bob gwrthrych a pheidiwch â chymryd yr ‘un olaf’ o unrhyw beth y byddwch chi’n dod o hyd iddo.
2) Oedolion
Tynnwch luniau hyfryd o’ch plentyn/disgyblion yn gwisgo eu Coronau Gwyllt
3) E-bostiwch hyd at dri llun fesul plentyn
rhowch enw llawn, oedran, cyfeiriad post y plentyn (ac os ydych yn trefnu Cinio Mawr byddem wrth ein bodd yn gwybod am hynny hefyd!):
Dyddiad cau
Hanner nos, dydd 26 Ebrill 2023.
Bydd ein beirniaid yn edrych ar eich creadigaethau godidog a byddwn yn hysbysu 10 enillydd lwcus o fewn wythnos i’r dyddiad cau. Anfonir gwobrau drwy’r post i’r cyfeiriad a roddir gyda’r cais.
Sylwer: trwy rannu eich lluniau ar gyfer y Gystadleuaeth, rydych yn rhoi caniatâd iddynt gael eu defnyddio yn y wasg a marchnata mewn perthynas â’r Cinio Mawr.
Canllawiau i ysgolion
I gymryd rhan, rydym yn argymell bod athrawon yn cyflwyno ein cynllun gwers Coronau Gwyllt ar gyfer Blynyddoedd Cynnar, Cyfnod Sylfaen a CA1 ac yn anfon plant adref gyda’u creadigaethau hyfryd. Gwahoddwch rieni a gofalwyr i roi lluniau eu plentyn a’r Goron Wyllt i mewn i’r gystadleuaeth, gan ddefnyddio’r templed llythyr syml hwn. Byddem wrth ein bodd yn clywed sut mae eich ysgol yn cymryd rhan! Cysylltwch i rannu eich stori ac os oes gennych unrhyw gwestiynau.
Telerau ac Amodau’r Gystadleuaeth
Mae’r telerau ac amodau hyn (y Telerau hyn) yn berthnasol i’r gystadleuaeth lluniau, a weinyddir ac a gyflwynir gan Cymunedau Eden Project.
Y gwobrau
*Bydd 10 ymgeisydd yn ennill Bathodyn Cinio Mawr y Coroni Pawprint a Chanllaw i Anthem Genedlaethol y DU.
** Bydd un wobr yn cynnwys: gwerth £50 o dalebau Iceland a photel ddŵr Eden Project, a roddir ynghyd â’r gwobrau uchod i’r cynnig buddugol cyffredinol. Mae’r tocyn bwyd i’w ddefnyddio i brynu cyflenwadau ar gyfer Cinio Mawr y Coroni. Cysylltir â rhiant/gwarcheidwad/gofalwr yr enillydd i drefnu i’r gwobrau gael eu dosbarthu.
***Bydd y Gweithdy Digidol i Ysgol a ddarperir gan Dîm Ysgolion Eden Project yn cael ei roi i ysgol gynradd a ddewisir ar hap sy’n cofrestru eu digwyddiad Cinio Mawr y Coroni ar fap Y Cinio Mawr erbyn hanner nos ar 26 Ebrill.
Sut i ymgeisio
Mae’r gystadleuaeth yn cau am hanner nos ar 26 Ebrill 2023. I fod yn gymwys rhaid i ymgeiswyr ddilyn y canllawiau uchod a rhannu gwybodaeth yn ôl y gofyn. Bydd yr enillwyr yn cael eu dewis a’u hysbysu o fewn wythnos i’r dyddiad cau.
Nodiadau pwysig
- Rhaid i chi fod yn 16 oed ac iau i fod yn gymwys ar gyfer y Gystadleuaeth Lluniau
- Mae mynediad am ddim ac nid oes angen prynu unrhyw beth. Un cynnig y person.
- Rhaid i chi fod yn breswylydd yn y DU i fod yn gymwys.
- Mae’r gystadleuaeth yn cau am hanner nos ar 26 Ebrill, mae Cymunedau Eden Project yn cadw’r hawl i ymestyn y dyddiad cau hwn os bernir bod angen. Bydd yr enillwyr yn cael eu hysbysu o fewn wythnos i’r dyddiad cau.
- Trwy rannu eich lluniau ar gyfer y Gystadleuaeth, rydych yn rhoi caniatâd iddynt gael eu defnyddio yn y wasg a marchnata mewn perthynas â Chinio Mawr 2023.
- Mae’r wobr fel y’i disgrifiwyd ac nid oes dewis arian parod amgen.
- Nid yw’r gwobrau’n drosglwyddadwy ac ni ellir eu had-dalu.
- Bydd y Gystadleuaeth Lluniau yn cael ei beirniadu gan dîm Cymunedau Eden Project. Os na ellir cyrraedd yr enillydd o fewn saith diwrnod, mae Cymunedau Eden Project yn cadw’r hawl i ddyfarnu’r wobr i’r ymgeisydd a ddaeth yn ail.
- Gall methu ag ymateb a/neu ddarparu cyfeiriad ar gyfer danfon, neu fethiant i fodloni’r gofynion cymhwysedd arwain at fforffedu’r Wobr.
- I gael manylion yr enillydd, e-bostiwch cymunedau@edenproject.com o fewn wyth wythnos i’r dyddiad dewis yr enillydd.
- Mae Cymunedau Eden Project yn cadw’r hawl i ganslo’r gystadleuaeth ar unrhyw adeg os bernir bod angen.
- Mae enillwyr y Gystadleuaeth Ffotograffau yn derfynol ac ni fyddwn yn ymateb i unrhyw ohebiaeth ar hyn.
- Gwybodaeth
- Bydd unrhyw fanylion personol yn cael eu defnyddio at ddiben y Gystadleuaeth Lluniau yn unig. Ni fydd y wybodaeth hon yn cael ei throsglwyddo i unrhyw drydydd parti, na’i defnyddio at unrhyw ddiben arall.
- Dysgwch fwy am sut rydym yn storio ac yn prosesu eich data mewn modd cyfrifol yn ein polisi preifatrwydd.
- Gellir defnyddio lluniau a gyflwynir i’r Gystadleuaeth yn y wasg a marchnata mewn perthynas â’r Cinio Mawr. Trwy rannu delweddau, rydych yn cytuno y gellir defnyddio lluniau o’r plentyn/plant at y diben hwn.
- Mae data ceisiadau yn cael ei brosesu gan dîm Cymunedau Eden Project.
- Mae mynediad i’r gystadleuaeth hon yn cael ei gymryd fel derbyniad o’r telerau ac amodau hyn.