Foccacia Blodau Gwyllt
Beth am roi cynnig ar y bara focaccia blodau gwyllt hynod brydferth a blasus hwn.
Cynhwysion
- Cymysgedd bara focaccia (ar gael mewn nifer o archfarchnadoedd)
- Olew olewydd
Detholiad o berlysiau a blodau i addurno’r bara. Ar gyfer y bara fe ddefnyddion ni ddetholiad o eitemau o’r ardd a lonydd y pentref, gan gynnwys:
-
- Shibwns
- Cennin syfi
- Peniganau (Dianthus)
- Crib y ceiliog
- Pansïau
- Blodau clari
- Saets cyrens duon
- Oregano
- Hadau danadl
- Blodau hocys
- Blodau tafod yr ych
- Persli dail fflat
- ‘Cawsiau’ hocys – plisg hadau’r hocysen goediog wedi’u casglu cyn y caledu
Bydd Angen Arnoch
- Powlen gymysgu
- Tun bara llydan, fflat
- Ffoil i orchuddio’r bara
Dull
Cam 1
Rhowch gymysgedd y bara yn y bowlen gymysgu ac ychwanegwch ddŵr ac olew olewydd. Gadewch y toes i godi cyn ei addurno.
Cam 2
Cynheswch y ffwrn i 210°
Cam 3
Defnyddiwch y blodau bwytadwy a’r perlysiau i addurno arwyneb y bara.
Cam 4
Gorchuddiwch y cyfan gyda ffoil a’i roi yn y ffwrn am 20 munud
Cam 5
Tynnwch y ffoil 5 munud cyn diwedd yr amser pobi.
Cam 6
Tynnwch y bara o’r ffwrn yn ofalus a’i adael i oeri cyn ei fwyta.