CREU DALIWR HAUL NATURIOL

Example of a sun catcher

Mae creu daliwr haul naturiol yn ffordd hwylus o ddod â blas o'r awyr agored tu mewn, er mwyn i chi allu archwilio ac arsylwi lliwiau, siapau a manylion y byd natur. Mae pob tymor yn cynnig eitemau newydd i'w darganfod, felly beth am fynd allan i gychwyn chwilota!

BYDD ANGEN ARNOCH

  • Plât papur
    • Papur gludiog
    • Llinyn
    • Siswrn
    • Tyllwr
    • Yr eitemau o'ch helfa natur

CYFARWYDDIADAU

Casglwch ystod o drysorau naturiol, megis dail ysgafn, blodau, glaswellt neu blu.

Gwnewch eich ffrâm trwy dorri canol y plât allan yn ofalus. Bydd ymyl y plât yn ffurfio ffrâm y daliwr haul (gallwch ailgylchu'r darn canol). Peidiwch ag anghofio addurno'ch ffrâm hefyd!

Torrwch y papur gludiog yn gylch ychydig yn fwy na'r twll yn y ffrâm. Piliwch y tâp oddi ar y papur a'i wasgu ar gefn y ffrâm. Sicrhewch fod yr ochr ludiog i fyny pan roddwch chi'r plât ar y bwrdd.

Trefnwch eich trysorau a chreu dyluniad ar ben y papur gludiog. Pwyswch nhw i lawr i sicrhau eu bod yn sownd.

Ar ôl gorffen, gwnewch dwll ym mhen uchaf y ffrâm a chlymwch y llinyn drwy'r twll. Hongiwch y daliwr haul i fyny ar y tu mewn i ffenestr a gadewch i'r golau ddisgleirio drwyddo.