Quiche Coroni
Quiche dwfn gyda chasyn crwst ysgafn, creisionllyd a blasau hyfryd Sbigoglys, Ffa Llydan a Tarragon ffres. Gallwch ei fwyta'n boeth neu'n oer gyda salad gwyrdd a thatws newydd wedi'u berwi, perffaith ar gyfer cinio ysgafn neu bicnic prynhawn.

Cynhwysion
Digon i 6
Tun Fflan 20cm
Crwst
- 125g blawd plaen
- Pinsiad o halen
- 25g o fenyn oer, wedi’i dorri’n sgwariau bach
- 25g o lard
- 2 lwy fwrdd o laeth
Neu 1 x 250g bloc o grwst brau parod
Llenwad
- 125ml o laeth
- 175ml hufen dwbl
- 2 ŵy maint canolig
- 1 llwy fwrdd tarragon ffres wedi’i dorri’n ddarnau
- Halen a phupur
- 100g o gaws cheddar wedi’i gratio
- 180g sbigoglys wedi’i goginio, wedi’i dorri’n ysgafn
- 60g Ffa Llydan heb blisgyn neu Ffa Soia wedi’u coginio
Dull

1)
I wneud y toes, hidlwch y blawd a’r halen mewn powlen; ychwanegwch y brasterau a rhwbiwch y cymysgedd gyda’i gilydd gan ddefnyddio blaenau eich bysedd nes i chi gael gwead tywodlyd, tebyg i friwsion bara.
2)
Ychwanegwch y llaeth ychydig ar y tro a dod â’r cynhwysion at ei gilydd mewn toes.
3)
Gorchuddiwch a gadewch iddo orffwys yn yr oergell am 30-45 munud
4)
Ysgeintiwch ychydig flawd ar yr arwyneb gwaith a gyda rholbren, rholiwch y toes i gylch ychydig yn fwy na phen y tun a thua 5mm o drwch.
5)
Leiniwch y tun gyda’r toes, gan ofalu nad oes unrhyw dyllau neu gallai’r cymysgedd ollwng. Gorchuddiwch a gadewch iddo orffwys am 30 munud arall yn yr oergell.
6)
Cynheswch y ffwrn i 190°C
7)
Leiniwch y casyn toes gyda phapur gwrthsaim, ychwanegwch ffa pobi a’i bobi’n ddall am 15 munud cyn tynnu’r papur gwrthsaim a’r ffa pobi.
8)
Gostyngwch dymheredd y popty i 160°C
9)
Curwch y llaeth, hufen, wyau, perlysiau a sesnin gyda’i gilydd.
10)
Gwasgarwch 1/2 o’r caws wedi’i gratio yn y casyn wedi’i bobi’n ddall, rhowch y Sbigoglys a’r Ffa wedi’u torri ar ei ben, a’r perlysiau yna arllwyswch y cymysgedd hylif dros y cyfan.
11)
Os oes angen, rhowch dro ysgafn i’r cymysgedd i sicrhau bod y llenwad wedi’i wasgaru’n gyfartal ond byddwch yn ofalus i beidio â thorri’r casyn crwst.
12)
Ysgeintiwch y caws sy’n weddill dros y cyfan. Rhowch y quiche yn y popty a’i bobi am 20-25 munud nes ei fod wedi setio ac yn ysgafn euraidd.