Talebau Co-op ar gyfer eich digwyddiad
Mae’r Cinio Mawr a’r Help Llaw Mawr yn ymuno ar 5-8 Mehefin am benwythnos o gyfeillgarwch, bwyd, hwyl a gweithredu – ac mae gwahoddiad i bawb!
Rydym wedi ymuno â’r Co-op i ddod â thalebau i gefnogi eich digwyddiad a dod â phobl at ei gilydd. Bydd talebau gwerth £20 ar gael o 15 Mai 2026 i bobl ar draws y DU.
Cynlluniwch eich digwyddiad ar unrhyw adeg yn ystod mis Mehefin, boed hynny’n ein prif benwythnos (5 – 8 Mehefin) yn ystod Wythnos Gwirfoddolwyr neu unrhyw adeg yn ystod mis Mehefin, Mis y Gymuned. Bydd derbynwyr yn cael eu dewis o’r cofnodion i’n map digwyddiadau.
Sylwch nad oes unrhyw warant y byddwch yn derbyn taleb os ydych wedi cofrestru eich diddordeb. Rhaid gwario talebau yn ystod mis Mehefin 2026.
I gael taleb dylech:
- byw yn y DU
- ychwanegu eich cynlluniau ar gyfer eich digwyddiad at ein map (gwnewch yn siŵr eich bod wedi dewis ie i ni gysylltu â chi am eich digwyddiad, ac wedi darparu rhif ffôn a chyfeiriad e-bost)
Wrth ychwanegu eich digwyddiad at y map, gallwch hefyd gofrestru i dderbyn pecyn digwyddiad bach am ddim (tra bo stoc ar gael), sy’n cynnwys baneri, sticeri, baneri bwyd a mwy i helpu i addurno’ch digwyddiad.