Mae llai nag wythnos i fynd cyn diwrnod y Cinio Mawr ac mae miliynau o bobl yn rhoi'r cyffyrddiadau terfynol i'w cynlluniau. Y newyddion da yw bod dim angen i Giniawau Mawr fod yn FAWR neu'n gymhleth, felly mae dal digon o amser i ymuno yn eich ardal chi. Dyma bum cynhwysyn sydd eu hangen arnoch ar gyfer Cinio Mawr...
1. Lleoliad - gallwch gynnal Cinio Mawr unrhyw le: o barc i faes parcio, neuadd y pentref i ardd gefn. Lle bynnag dewiswch chi, sicrhewch fod gennych y caniatâd perthnasol!
2. Cymdogion - Pobl yw rhan bwysicaf Cinio Mawr, felly ewch allan gyda gwahoddiad neu ewch i gnocio ar ddrysau a stopio am sgwrs! Rhowch rai posteri fyny ar bolion lampau, a pheidiwch ag anghofio defnyddio sialc i hyrwyddo'r digwyddiad ar y palmant!
3. Addurniadau - Does dim rhaid i addurniadau fod yn ffansi neu'n ddrud, y dasg o'u gwneud yw hanner yr hwyl! Gellir gwneud bynting, llieiniau byrddau a chadwyni papur adref ac maen nhw'n ffordd wych o gael plant at ei gilydd ac o'u cynnwys yn y Cinio Mawr.
4. Rhywbeth i eistedd ar - un hawdd i'w datrys, gofynnwch i bawb ddod â chadair gardd, stôl neu fat.
5. Bwyd - y cynhwysyn hollbwysig! Anogwch bobl i ddod â bwyd a rhannu (cofiwch labelu unrhyw alergenau), neu gofynnwch i dai gydag odrifau neu eilrifau ddod â phrydau melys neu sawrus. Mae gennym lawer o syniadau ryseitiau i chi roi cynnig arnynt, neu gallech ofyn i bawb gyfrannu a rhannu bwyd parod o fwyty lleol.
Peidiwch ag anghofio dod â rhai bagiau sbwriel i gadw'r lle'n daclus wedyn, a rhannwch unrhyw fwyd sy'n weddill rhwng y gwesteion er mwyn peidio â gwastraffu unrhyw fwyd.
Rydym yn ymwybodol bod hyn yn gallu bod yn frawychus, yn enwedig os nad ydych yn adnabod eich cymdogion o gwbl, ond rydym wedi clywed cymaint o straeon gan bobl a oedd yn falch bod un o'u cymdogion wedi cymryd y cam cyntaf!