Skip to content

Trefnu Cinio Mawr

Gall Cinio Mawr fod yn unrhyw beth – grŵp bach yn dod at ei gilydd mewn gardd, parc neu ardd ffrynt, neu barti mwy gyda byrddau yng nghanol eich stryd.

Y syniad y tu ôl i hyn yw bod dechrau’n syml gyda Cinio Mawr yn gallu arwain at bob math o gyfeillgarwch, syniadau a phrosiectau. Mae’n dod â phobl at ei gilydd i siarad – a gyda chwpwl o unigolion creadigol, gall arwain at bobl yn gwneud mwy o fewn eu cymunedau, a mynd i’r afael â’r materion sydd o bwys iddyn nhw. I’ch helpu i ddechrau arni, dyma ein hargymhellion ar gyfer trefnu Chinio Mawr.

 

Gwyliwch y fideo (EN)

1. Dewis dyddiad

 

Dewch â’ch cymuned CHI at ei gilydd â’r Cinio Mawr eleni. Ymunwch â’r hwyl ym mis Mehefin a chynlluniwch eich Cinio Mawr fel rhan o Fis Y Gymuned.

Neu beth am gynnal cinio fin nos? Os ydych chi neu’ch cymdogion gweithio patrymau gwaith afreolaidd, bydd cinio fin nos yn dod â phobl at ei gilydd pan mae’n tywyllu, a gallwch wledda i’r oriau mân!

 

2. Gweld pwy fydd eisiau dod

 

Penderfynwch a ydych chi’n mynd i gadw pethau o fewn eich stryd; pobl o fewn ardal benodol, fel cod post, neu bawb sy’n defnyddio arosfan bws penodol; neu grŵp sy’n cael ei gysylltu gan achos, fel clwb chwaraeon neu grŵp addoli.

 

Gallwch greu posteri a thaflenni llachar a chyfeillgar a’u dosbarthu o gwmpas y gymuned. Gwnewch wahoddiadau i weld pwy sydd eisiau dod, neu rhowch ddolen i dudalen digwyddiad ar Facebook neu MoreHuman i gael syniad o’r niferoedd, ond peidiwch ag anghofio siarad â phobl hefyd. Ceisiwch wahodd cymaint o bobl â phosibl yn bersonol, a gofynnwch iddyn nhw ledaenu’r neges. Trwy wneud hyn, byddwch yn debygol o ddarganfod pobl sydd eisiau eich helpu i drefnu, hefyd! Peintio wynebau, offer sain neu bobi cacen Cinio Mawr anferth – does wybod pa ddoniau disglair sy’n llechu yno, gall pawb gymryd rhan!

Mae eich pecyn Y Cinio Mawr rhad ac am ddim yn cynnwys popeth sydd ei angen arnoch i ddechrau arni!

Archebwch eich pecyn Y Cinio Mawr am ddim (add link)

 

3. Creu addurniadau

 

Gallwch greu bynting o ddefnyddiau sgrap, bagiau plastig neu gynnwys eich bocs ailgylchu. Gallwch ofyn i bobl eraill wneud rhannau ohono ac yna gysylltu pob dim at ei gilydd, neu, yn well fyth, dewch at eich gilydd cyn y Cinio Mawr am sesiwn greu addurniadau. Ychydig o flodau a rhubanau ac rydych chi’n barod.

 

4. Trefnu’r bwyd

 

Cadwch bethau’n syml. Mae dod â’ch picnic eich hun yn opsiwn da, gan nad yw’n gofyn am lawer o baratoi o flaen llaw, neu gallwch ofyn i bawb ddod ag un peth i rannu. Os gwnewch chi hynny, does dim angen i chi gael cadarnhad o faint o bobl sy’n dod, gan fod digon o fwyd i bawb fel arfer. Edrychwch ar rai o’n ryseitiau poblogaidd syml y mae rhai trefnwyr Ciniawau Mawr wedi eu rhannu gyda chi.

 

5. Argymhellion ar gyfer y diwrnod mawr

 

  • Ceisiwch sicrhau bod eich adloniant, gemau a gweithgareddau yn addas i bawb. Dyma syniadau gwych ar gyfer gemau parti stryd gemau parti stryd ar gyfer pob oedran a gallu.
  • Trefnwch amser ar gyfer y cinio – bydd yn eich helpu i ddechrau pethau.
  • Ychydig o gerddoriaeth – gallwch ofyn a oes rhywun yn chwarae offeryn ac yn awyddus i chwarae ychydig o ganeuon – does dim byd gwell nag adloniant byw. Poeni am drwydded? Mae gennym ni gyngor i chi ar ein tudalen cwestiynau cyffredin.
  • Poeni am y tywydd? Dyma ein canllaw ar gyfer trechu’r tywydd ar ddiwrnod y Cinio Mawr.

Tynnwch ddigon o luniau, ac, yn bwysicaf oll, mwynhewch!

 

6. Codi arian yn eich Cinio Mawr

 

Mae llawer o bobl yn defnyddio’r Cinio Mawr fel cyfle i godi arian ar gyfer achos sy’n agos at eu calon, ar gyfer grŵp cymunedol neu ased lleol fel ardal chwarae i blant, neu elusen genedlaethol fwy. Cymerwch gip ar ein canllaw codi arian yn y gymuned.

 

7. Ar ôl y parti

 

Pan fydd y bynting wedi dod i lawr a’r byrddau wedi cael eu rhoi o’r neilltu, cofiwch rannu eich stori. Byddwn ni wrth ein boddau yn clywed pob dim amdano, felly defnyddiwch yr hashnod #TheBigLunch a rhannwch y cyfan ar FacebookTwitter ac Instagram. Cadwch lygad ar eich blwch e-bost, hefyd, i gymryd rhan yn arolwg blynyddol y Cinio Mawr!

Gweld holl ganllawiau’r Cinio Mawr