Skip to content

Chwe ffordd o gadw ysbryd Y Cinio Mawr yn fyw yn eich cymdogaeth 

Roedd Y Cinio Mawr yn llawn hwyl eleni gyda nifer enfawr o bobl yn cymryd rhan mewn digwyddiadau cymunedol, llawer ohonynt am y tro cyntaf. Ond nid oes angen i chi aros am ddathliad cenedlaethol i gymryd rhan, mae llawer o ffyrdd i gadw'r cysylltiadau i fynd.

1. Anfonwch nodyn o ddiolch

Os gwnaethoch chi gynnal Cinio Mawrneu gymryd rhan mewn un yn lleol, beth am anfon nodyn dilynol bach at eich cymdogion? Rhowch y ddelwedd hon ar eich tudalen Facebook leol neu grŵp WhatsApp, neu lawrlwytho ac argraffu gerdyn i’w roi trwy flychau llythyrau. Mae’n ffordd braf o ddechrau’r sgwrs am eich cyfarfod nesaf hefyd.

 

2. Cysylltwch ar Nextdoor

Rwyf wedi bod yn defnyddio Nextdoor ers blynyddoedd bellach ac yn ei chael yn ffordd ddefnyddiol iawn o gadw i fyny â newyddion lleol a rhannu pethau’n lleol. Fel rhiant i blentyn bach, mae gennym ni drosiant uchel o bethau ac mae’r adran ‘Ar Werth ac Am Ddim’ yn lle gwych i werthu a chael gafael ar bethau sydd eu hangen arnoch yn rhatach. 

Rwyf wrth fy modd â sut mae’n helpu i atal gwastraff ac yn sbarduno cysylltiadau a sgyrsiau gyda phobl leol. Gallwch hefyd sefydlu grwpiau a chynnal polau – defnyddiol ar gyfer cynllunio eich digwyddiad nesaf a dod o hyd i ddyddiadau sy’n gweithio i bawb! 

 

3. Trefnwch sesiwn Playing Out

Efallai bod y baneri bellach yn y cwpwrdd, ond os ydych chi’n awyddus i barhau â naws Y Cinio Mawr, mae trefnu digwyddiad Playing Out yn gam nesaf gwych.

Mae gan ein ffrindiau yn Playing Out yr holl wybodaeth a chyngor sydd eu hangen arnoch i fynd o barti stryd i stryd chwarae ac os aiff yn dda, efallai y gallwch wneud trefniadau gyda’ch cyngor i’w wneud yn ddigwyddiad rheolaidd.

 

4. Lledaenwch ychydig o garedigrwydd 

Mae ein hymchwil i effaith (EN) yr argyfwng costau byw wedi dangos ein bod ni i gyd yn dod yn fwy ymwybodol o’r caledi a wynebir gan eraill yn ein cymuned a bod 14% o oedolion y DU yn poeni am eu lles a’u diogelwch bwyd eu hunain. Ond mae hefyd yn galonogol dysgu bod un o bob tri o bobl eisiau dod o hyd i ffyrdd o gysylltu a chefnogi eraill yn lleol. 

Ond does dim rhaid iddo fod yn goginio, mae dod â bin y cymdogion i mewn, cynnig mynd â’u ci am dro neu gadw llygad ar eu plentyn am ychydig yn ffyrdd hyfryd o ledaenu ychydig o garedigrwydd – a heb wario ceiniog.

 

5. Mis y Gymuned

Mae Mis y Gymuned yn gyfnod pan rydyn ni’n dod at ein gilydd i ddathlu popeth sy’n gwneud ein cymunedau’n wych.

Cymerodd dros 20 miliwn o bobl ran ym Mis y Gymuned yn 2022, felly peidiwch â cholli allan, ymunwch ym mis Mehefin – p’un a ydych am ddathlu gwirfoddolwyr, cysylltu â’ch cymdogion, cefnogi achos sy’n bwysig i chi, neu’n syml i ddweud diolch, mae’r cyfan yn rhan o Fis y Gymuned!

Mis y Gymuned

 

6. Trefnwch daith gerdded gymdogol

Nid oes dim yn codi fy ysbryd yn gyflymach na thaith cerdded a siarad. Mae’r weithred o gerdded neu feicio yn annog positifrwydd oherwydd ein bod yn llythrennol yn symud ymlaen. Mae mynd allan gyda’r nos, neu amser cinio os ydych chi’n gweithio gartref, bob amser yn teimlo fel peth da i’w wneud ac mae’n ffordd braf o ddod i adnabod cymydog neu ddau. 

Cymerwch olwg ar ein straeon i’ch ysbrydoli am ragor o syniadau – neu ymunwch â ni yn un o’n digwyddiadau nesaf am y cyfle i gwrdd â phobl gymunedol o’r un anian yn eich ardal.