Skip to content

10 cam bach i ledaenu ychydig o lawenydd yn eich cymdogaeth 

Gall pob un ohonom ledaenu ychydig o gariad yn ein cymdogaethau, a gall y gweithredoedd lleiaf wneud y gwahaniaeth mwyaf. Felly, am beth ydych chi'n aros? Ewch ati i ledaenu ychydig o lawenydd yn eich cymuned yr haf hwn.

1) Cuddio llyfrau i gysylltu â’ch cymuned 

Mae gan bob un ohonom yr un llyfr hwnnw yr ydym yn annog ein ffrindiau a’n teulu i’w ddarllen, ac yn gobeithio y bydd pawb yn ei fwynhau cymaint. Os yw hyn yn swnio’n gyfarwydd, beth am fod yn dylwyth teg llyfrau! 

 

Book adventure

Picture of a book coming to life

 

2) Bod yn chwareus

Defnyddiwch eich ochr chwareus a defnyddiwch sialc i dynnu esgil neu gêm neidr enfawr ar y palmantCewch eich synnu faint o bobl fydd yn cymryd rhan wrth iddynt gerdded heibiodydyn ni methu peidio! 

 

3) Hau hadau a phlannu blodau

Ychwanegwch ychydig o liw i’ch cymdogaeth, a helpwch y blaned hefyd, trwy blannu blodau. Os oes gennych hen bâr o esgidiau glaw, beth am roi bywyd newydd iddyn nhw a’u defnyddio fel potiau planhigion mwy diddorol?

 

colorful-rain-boots.jpg

Planting in welly boots

 

4) Glanhau eich ardal leol

Cydiwch mewn codwr sbwriel, a menig, a dechreuwch arni! Ceisiwch  wahanu’r sbwriel wrth i chi fynd er mwyn i chi allu ailgylchu cymaint â phosib. Rydym yn weddol siŵr y bydd pobl yn fodlon eich helpu a bydd eich strydoedd yn dwt ac yn daclus ymhen dim! 

 

5) Creu neidr gerrig

Dewch o hyd i ychydig gerrig, cregyn neu gerrig mân, a’u haddurno sut bynnag y dymunwch. Neges o gefnogaeth, neu ddiolch, neu ddarlun lliwgar o bosib. Rhowch nhw mewn man cyhoeddus lle gall pobl stopio a’u mwynhau. Anogwch eich cymuned i gymryd rhan trwy ychwanegu arwydd a gwyliwch y neidr yn tyfu! 

 

Felt heart

Photo of a hanging felt heart

 

6) Lledaenu’r serch gyda chalonnau crog

Mae calonnau ffelt nid yn unig yn hwyl i’w gwneud, ond gallant hefyd roi gwên ar wyneb rhywun. Dewiswch rai ffyrdd diddorol neu ryfedd i’w haddurno, ychwanegwch neges a’u gadael o amgylch eich cymdogaeth i roi coron ar ddiwrnod rhywun.

 

7) Bod yn greadigol

Ydych chi’n dda yn paentio? Ydych chi’n hoff o wau? Ydych chi’n grefftwr o fri? Gwnewch eich stryd yn fwy lliwgar a rhannwch eich celf gyda phobl mewn ffyrdd bach. 

 

Eden Project Communities – Love where you live – pick up rubbish.jpg

Children picking up rubbish along a creek.

 

8) Gwneud wynebau

Gall ychydig o hiwmor fynd yn bell. Gwnewch lygaid gŵgli allan o bapur a’u hychwanegu ar wrthrychau difywyd o amgylch eich cymuned. Sut all unrhyw un fod mewn hwyliau drwg pan fydd bin yn gwenu’n wirion arnoch chi?

 

9) Cynnal arddangosfa lluniau gymunedol

Gwahoddwch eich cymdogion i ddewis eu hoff luniau ar thema benodol, i’w harddangos yn eu ffenestri neu mewn man lleol.

 

Eden Project Communities – neighbourhood photo exhibition_0.jpg

Photographs in frames

 

10) Cynnal Wythnos Carwch eich Cymuned

Anogwch eich cymuned leol i rannu eu hoff leoedd am gyfle i weld lle rydych chi’n byw trwy lygaid ffres. Ysbrydolwch falchder lle rydych chi’n byw gydag Wythnos Carwch eich Cymuned.

 

Postbox love where you live

A group stand together for a photo on their street.

Rhannwch eich newyddion

Gall gweithredoedd bach arwain at bethau mwy, a gobeithio y gall y rhain ddod â rhywfaint o lawenydd i’ch cymdogaeth. Rydyn ni wrth ein bodd yn clywed am yr hyn rydych chi’n ei wneud. Rhowch wybod i ni yn ein Grŵp Cymunedol ar Facebook.