Y Cinio Mawr Adeg Dolig

Y Cinio Mawr Adeg Dolig

Y CINIO MAWR ADEG DOLIG

Rhannu cyfeillgarwch, bwyd a hwyl yr ŵyl y gaeaf hwn

Mae'n amser prysur o'r flwyddyn, ac i rai gall deimlo'n eithaf unig. Mae cymryd yr amser i ddweud helo wrth gymydog gyda phecyn o fins peis yn eich dwylo, neu wahodd pobl i rannu pryd o fwyd yn ffordd wych o gadw mewn cysylltiad dros y Nadolig.

Mae gennym ni bopeth sydd ei angen arnoch i ddechrau arni isod!

Eich canllaw bach at Y Cinio Mawr Adeg Dolig

P'un a ydych chi'n unigolyn, yn sefydliad cymunedol, yn grŵp lleol neu'n fusnes, mae'r canllaw bach hwn yn llawn awgrymiadau a syniadau i'ch helpu - bwrwch ati! 

gwnewch-eich-cracers-nadoligaidd-eich-hun

Yn edrych am grefft Nadoligaidd hwyliog a fydd yn ychwanegu rhywbeth arbennig at fwrdd eich Cinio Mawr?

Dewislen Sgwrsio

A oedd gennych chi unrhyw draddodiadau Nadoligaidd yn tyfu i fyny?

Beth sydd wedi dod â llawenydd i chi eleni?

Baneri Bwyd Nadoligaidd

Mae bwyd wrth galon Y Cinio Mawr ac mae'n gynhwysyn allweddol wrth ddod â phobl at ei gilydd. Os yw eich Cinio Mawr adeg Dolig yn golygu rhannu pecyn o fins peis gyda'ch cymydog neu’n wledd gyda’r stryd gyfan, mae baneri bwyd yn ffordd hawdd o labelu bwyd ac addurno’ch gwledd am ddathliad.

Crefftau Nadolig ar gyfer eich Cinio Mawr

Addurnwch eich cartref neu leoliad cymunedol lleol gyda'r crefftau Nadoligaidd hyn. Neu gwnewch nhw yn ganolbwynt yr hwyl yn eich Cinio Mawr a dewch â phobl at ei gilydd i greu addurniadau ar gyfer y Nadolig.

RYSEITIAU'R ŴYL

Bydd ein ryseitiau cost-effeithiol yn sicr o blesio pawb yn eich Cinio Mawr adeg Dolig. Mae pob rysáit yn bwydo digon ac yn cynnwys haciau arbed amser ac ynni, yn ogystal â dewisiadau blasus fegan a heb glwten hefyd.

Eich Poster Y Cinio Mawr adeg Dolig yn coch

Hongiwch y poster hwn yn agos at ble rydych chi'n cynnal eich Cinio Mawr adeg Dolig i ledaenu'r neges!

Mae yna hefyd fersiwn wag os hoffech chi ysgrifennu eich manylion neu neges eich hun.

Eich Poster Y Cinio Mawr adeg Dolig yn gwyn

Hysbysebwch eich Cinio Mawr adeg Dolig gyda'r fersiwn argraffadwy o'n poster coch.

Ac mae gennym ni fersiwn wag o'r poster hwn hefyd!

Gwahoddwch bobl i'ch

Argraffwch y gwahoddiad A6 defnyddiol hwn a'i roi trwy flychau llythyrau yn eich cymuned i wahodd pobl i'ch cyfarfod Nadoligaidd!

Defnyddiwch y fersiwn wag yn lle

Gwahoddwch bobl i'ch  Cinio Mawr

Nifer o wahoddiadau ar un dudalen - perffaith os oes gennych chi lawer o bobl i'w gwahodd!

Os hoffech chi ysgrifennu neges fwy personol, dyma ein fersiwn wag!

 

 

Dechreuwch drefnu eich Cinio Mawr gyda More Human

Mae ein ffrindiau yn More Human yma i'ch helpu i drefnu eich Cinio Mawr adeg Dolig. Byddant yn cynnal sesiynau ar-lein i'ch ysbrydoli a'ch cefnogi wrth i chi greu, hyrwyddo a chynnal cyfarfod gwych heb lawer o ffwdan ond gyda digonedd o hwyl. Gallwch hefyd ddefnyddio eu hofferyn hawdd ei ddefnyddio am ddim i adeiladu eich Cinio Mawr mewn dim ond 5 munud.

Dechreuwch drefnu eich Cinio Mawr gyda More Human

 

  

 

Cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr

Byddem wrth ein bodd yn cysylltu â chi a rhannu awgrymiadau, cyngor ac ysbrydoliaeth ar bopeth cymunedol. Byddwn yn anfon crynodeb misol atoch o'n prif gyngor, gweithgareddau, ryseitiau a straeon gan ein trefnwyr cymunedol anhygoel. 

 

 

 

Beth yw'r Cinio Mawr?

Bob mis Mehefin, mae'r Cinio Mawr yn dod â miliynau o bobl ynghyd i rannu cyfeillgarwch, bwyd a hwyl ar gyfer dathliad blynyddol y DU ar gyfer cymdogion a chymunedau. Mae’n syniad syml sy’n cael effaith gadarnhaol barhaus ar y rhai sy’n cymryd rhan, eleni rydym yn annog pobl i ymuno yn Y Cinio Mawr adeg Dolig hefyd, i ddathlu ein cysylltiadau a chadw ein cymunedau'n glyd. 

 

 

 

Ysbrydoliaeth ar gyfer eich Cinio Mawr adeg Dolig 

Gwyddom y gall tymor y Nadolig fod yn gyfnod prysur i lawer o bobl. Does dim angen i’ch Cinio Mawr fod yn bryd o fwyd enfawr gyda’r trimins i gyd – fe allai fod mor syml â rhannu paned o de a rhai mins peis gyda’ch cymdogion. Dyma rai o'n hoff syniadau. 

  • Gofynnwch i bobl yn eich cymuned ddod â'u hoff brydau Nadoligaidd a'u rhannu gyda'i gilydd - ffordd wych o ddarganfod danteithion blasus newydd 

  • Agorwch fannau cymunedol lleol – dewch â phobl i mewn o’r oerfel am baned a sgwrs

  • Byddwch yn Siôn Corn cyfrinachol a gadewch ddanteithion blasus ar garreg y drws neu ar ddesgiau yn y gwaith – megis siocledi, ffyn candi, neu gwcis cartref 

  • Cynhaliwch ddiodydd galw heibio – rhannwch wahoddiad a dewch at eich gilydd dros sudd afal cynnes neu siocled poeth ac ychydig o fyrbrydau Nadoligaidd

  • Os nad oes gennych chi le dan do i'w gynnal, beth am drefnu taith gerdded i weld eich goleuadau neu goeden Nadolig lleol (neu galendr Adfent byw), a stopio am goffi neu ddiod wedyn?