Gwnewch eich cracers Nadoligaidd eich hun
Yn edrych am grefft Nadoligaidd hwyliog a fydd yn ychwanegu rhywbeth arbennig at fwrdd eich Cinio Mawr?
Mae cracers cartref yn hawdd i'w gwneud gyda manion bethau o bob rhan o'r cartref a gallwch eu haddasu sut bynnag y dymunwch.
Byddwch yn greadigol gyda'r hyn rydych chi'n ei roi y tu mewn. Ysgrifennwch jôc Nadoligaidd i bobl ei rannu – maen nhw'n wych ar gyfer cychwyn sgwrs neu beth am gynnwys rhywbeth mwy personol, fel hoff atgof neu un doniol. Efallai eich bod am neilltuo heriau ar hap, megis snecian gair od mewn sgwrs, neu eu defnyddio i helpu pobl i ddod i adnabod ei gilydd yn well – allwch chi ddod o hyd i rywun sydd ddim yn hoffi mins peis?
What you'll need
- Ein templed cracers Nadolig
- Darn o gerdyn
- Pensiliau neu feiros i liwio
- Siswrn
- Cyllell grefft, mat torri a phren mesur, os oes gennych rai
- Tiwb cardbord bach – mae rholyn toiled o’ch ailgylchu yn berffaith!
- Ffon glud neu dâp gludiog
- Rhuban, gwlân neu linyn
- Unrhyw beth yr hoffech ei roi y tu mewn!
- Clepiau cracers (dewisol)
- Papur sidan neu bapur wedi'i rwygo - os nad ydych chi eisiau unrhyw beth i ratlo (dewisol)
Mae cracer cartref hefyd yn gwneud anrheg hyfryd. Lledaenwch ychydig o hwyl a gadewch un ar garreg y drws, ar ddesg neu o dan y goeden!