Month of Community

MIS Y GYMUNED

MEHEFIN 2022

Mae Mis y Gymuned yn gyfnod pan rydyn ni'n dod at ein gilydd i ddathlu popeth sy'n gwneud ein cymunedau'n wych. Eleni, cymerodd dros 20 miliwn o bobl ran ym Mis y Gymuned cyntaf erioed, felly peidiwch â cholli allan, ymunwch ym mis Mehefin - p'un a ydych am ddathlu gwirfoddolwyr, cysylltu â'ch cymdogion, cefnogi achos sy'n bwysig i chi, neu'n syml i ddweud diolch, mae'r cyfan yn rhan o Fis y Gymuned!

PARTNERIAID
Neighbourhood Watch Week

Bydd Wythnos Gwarchod Cymdogaeth 2022 yn dathlu 40 mlynedd o gefnogi cymdogion ac adeiladu gwydnwch cymunedau drwy rannu 40 o gamau gweithredu y gallwch eu gwneud gyda’ch cymdogion.

two ladies sitting at a table and laughing

Mae Wythnos Gwirfoddolwyr yn amser i ddiolch am y cyfraniad y mae miliynau o bobl yn ei wneud ledled y DU drwy wirfoddoli.

Wedi'i gydlynu yn Yr Alban gan Volunteer Scotland.

Wedi'i gydlynu yng Ngogledd Iwerddon gan Volunteer Now.

Cinio hynod arbennig i gymdogion a'r gymdogaeth yw'r Cinio Mawr Jiwbilî, rhan o ddathliadau swyddogol Jiwbilî Blatinwm EM y Frenhines ar benwythnos gŵyl y banc.

Dewch â’ch cymdogion ynghyd â Chinio Mawr trwy gydol Mis y Gymuned i gefnogi unrhyw un o achosion ein partneriaid.

Thank you day logo

Dechreuodd Diwrnod Dweud Diolch fel ffordd i bobl ddweud diolch personol i bawb a phopeth a helpodd ni i ddod trwy'r pandemig. Eleni, ar ddydd Sul 5 Mehefin, i gyd-fynd â'r Jiwbilî Blatinwm, maen nhw'n gobeithio am barti diolch mwyaf erioed y DU. 

Carers Week logo

Mae Wythnos Gofalwyr yn ymgyrch flynyddol i godi ymwybyddiaeth o ofalu, tynnu sylw at yr heriau y mae gofalwyr di-dâl yn eu hwynebu a chydnabod y cyfraniad y maent yn ei wneud i deuluoedd a chymunedau ledled y DU.

Marmalade Trust logo

Yn cael ei chynnal gan Marmalade Trust, mae Wythnos Ymwybyddiaeth Unigrwydd yn ymgyrch flynyddol i godi ymwybyddiaeth o unigrwydd a chael pobl i siarad amdano. 

Refugee Week logo

Mae Wythnos y Ffoaduriaid yn ŵyl ledled y DU sy’n dathlu cyfraniadau, creadigrwydd a gwydnwch ffoaduriaid a phobl sy’n ceisio noddfa.

Wedi'i gydlynu yn Yr Alban gan Scottish Refugee Council

Mae Wythnos Elusennau Bach yn gyfres o weithgareddau a mentrau i gefnogi a chodi ymwybyddiaeth o'r cannoedd ar filoedd o elusennau bach sydd, bob dydd, yn gwneud gwahaniaeth enfawr i gymunedau bregus ledled y DU a gweddill y byd.

The Great Get Together logo

Mae'r Ymgynulliad Mawr yn fenter a ysbrydolwyd gan y diweddar Jo Cox gyda'r nod o ddod â phobl ynghyd i ddathlu'r hyn sydd ganddynt yn gyffredin.