Tarten Lysiau Nadoligaidd
Gwastraffwch lai o fwyd gyda tharten y gallwch ei wneud gydag unrhyw lysiau sydd gennych dros ben ar ôl eich cinio rhost. Mae hwn hefyd yn bryd hyfryd y gallwch ei rannu gyda'ch cymdogion.
Cynhwysion
- Bloc 500g o grwst brau
- Blawd plaen (i ysgeintio)
- 350g o lysiau wedi'u coginio (moron, pannas, sbrowts - beth bynnag sydd gennych yn weddill), wedi'u torri'n ddarnau bras
- 100g caws aeddfed, wedi'i gratio'n fras
- 3 ŵy buarth maint canolig
- 225ml hufen sengl
- 150ml llaeth cyflawn
- ¼ x pecyn 20g o deim, y dail yn unig
Dull
Cychwynnwch trwy gynhesu'r ffwrn i 180˚C, marc nwy 4. Rholiwch y crwst ar arwyneb wedi'i ysgeintio â blawd i drwch o tua darn £1
Rhowch dun tarten 23cm a 4cm y gellir tynnu'r gwaelod ohono ar ddalen o bapur pobi a'i leinio gyda'r toes, gan ei wasgu'n dynn i mewn i'r corneli. Gadewch ymylon y crwst yn hongian dros y tun, gwnewch dyllau yn y gwaelod a'i adael i oeri am 20 munud
Leiniwch y crwst gyda phapur pobi a ffa pobi a'i roi yn y ffwrn i bobi am 20-25 munud tan fod yr ymylon yn euraidd
Tynnwch y ffa pobi a'i goginio am 10 munud arall neu tan fod y gwaelod yn lliw euraidd ysgafn. Gadewch i'w oeri am ychydig funudau, yna defnyddiwch gyllell finiog i dorri'r crwst sy'n hongian dros y tun i ffwrdd
Rhowch y llysiau a mwyafrif y caws wedi'i gratio i mewn i'r casyn crwst tan iddo lenwi
Chwipiwch yr wyau, hufen, llaeth a dail teim gyda'i gilydd tan iddynt fod yn llyfn, ychwanegwch halen a phupur ac arllwys y cyfan i mewn i gasyn y darten
Gwasgarwch weddill y caws a'i bobi am 30-35 munud, neu tan iddo galedu yn y canol. Rhowch y darten naill ochr i oeri am 5 munud cyn ei dynnu o'r tun a'i roi ar silff oeri. Gallwch weini'r darten hon ar dymheredd ystafell neu'n oer gyda beth bynnag sy'n