Sut i wneud calendr yr adfent neu byntin nadoligaidd
Fel unrhyw brosiect cymunedol, mae'n ymwneud â chymaint mwy na'r crefftau yn unig. Dyma ble mae sgyrsiau'n cael eu rhannu, problemau'n cael eu lleddfu, sgiliau'n cael eu cyfnewid a hyder yn tyfu.
Ac wrth reswm, dyma ble mae'r cacennau cartref gorau yn cael eu bwyta! Roedden nhw'n gwneud byntin yr Adfent ar y diwrnod yr ymwelodd Sam, a dyma sut aethon nhw ati er mwyn i chi allu creu eich un eich hun hefyd. Os yw hi'n rhy hwyr ar gyfer Adfent, hongiwch eich byntin dros gyfnod y Nadolig a rhoi anrhegion bach neu bosau yn y pocedi ar gyfer eich ymwelwyr.
Bydd angen arnoch
- Rhywbeth i hongian darnau eich byntin arno, megis rhaff/rhuban/llinyn/cortyn
- Ffabrig neu ffelt Nadoligaidd - patrymog neu liwiau plaen, digon ar gyfer 24 siâp dwbl ochr (gyda ffabrig neu ffelt ychwanegol ar gyfer y rhifau)
- Siswrn miniog
- Rhywbeth i sticio neu wnïo popeth at ei gilydd e.e. edau brodio, glud ffabrig, cotwm, wonder web
- Unrhyw ategolion megis gleiniau neu fotymau
- Peiriant gwnïo (dewisol)
Dull
I gychwyn, dewiswch eich ysbrydoliaeth!




Gallwch ddefnyddio glud ffabrig, peiriant gwnïo, gwnïo â llaw neu wonder web.
Cofiwch beidio â gwnïo top eich poced, dyna le byddwch yn rhoi'ch dantaith Adfent! Yna, trowch y boced y ffordd gywir. Os nad ydych yn defnyddio peiriant, sticiwch eich holl elfennau at ei gilydd pa bynnag ffordd sydd orau.
