Helwyr-Gasglwyr

Helwyr-Gasglwyr

A lady grins as she shows off a quiche, with a stick of rhubarb between her teeth
Mae'r gêm hon mor syml i'w chwarae ond gall fod yn llawer o hwyl. Mae'n llawn tensiwn a chyffro wrth i'r gystadleuaeth adeiladu i ddod â'r reddf heliwr-gasglwr i'r amlwg ym mhob un ohonom.

Gwnewch restr o eitemau cartref, neu defnyddiwch ac addaswch y rhestr isod. Rhoddir y rhestr i bob tîm ar yr un pryd; yna rhaid rasio i gael popeth allan ar y stryd o gartrefi aelodau’r tîm. Mae hon hefyd yn gêm wych i'w chwarae yn ystod galwadau ar-lein!

Dylai pob eitem ddod o gartref gwahanol. Gallwch addasu hyd y rhestr hon yn dibynnu ar nifer y gwahanol gartrefi sy'n chwarae ym mhob tîm.

Rhestr enghreifftiol:

• Taten
• Moronen
• Rholbren
• Chwisg
• Powlen golchi llestri llawn dŵr sebonllyd 
• Paned o de
• Llwy de o halen
• Llwy fwrdd o olew
• Sleisen o dost gyda menyn