CAWL PWMPEN SBEISLYD GRAINNE
Gallwch wneud cymaint mwy na cherfio gyda phwmpen, beth am roi cynnig ar wneud cawl pwmpen blasus i'w rannu gyda'ch ffrindiau a chymdogion!
Cynhwysion
- Pwmpen 1kg, wedi'u phlicio a'i thorri yn ddarnau 1-2cm
- 1 winwnsyn, wedi'i dorri'n ddarnau bach
- 2 lwy de o arlleg
- 2 bupur coch
- 2 lwy fwrdd o bâst cyri coch
- 1 tun o hufen cnau coco
- 1 llond llaw o ddail coriander ffres wedi'u torri'n fras
Dull
I wneud y cawl
Cynheswch sosban fawr ar wres canolig.
Ychwanegwch y bwmpen, y winwnsyn, y garlleg, y pupur coch a'r pâst cyri, cymysgwch y cyfan a'i goginio ar wres canolig am ychydig funudau.
Ychwanegwch yr hufen cnau coco a pharhewch i gymysgu'r cwbl, yna ychwanegwch beint o ddŵr oer a dod â'r cyfan i'r berw yn raddol.
Trowch y gwres i lawr yn isel, gorchuddiwch y gymysgedd a'i mudferwi am 20 munud neu tan fod y bwmpen wedi meddalu.
.
Tynnwch y sosban o'r gwres, gadwch y cawl i oeri cyn ei blendio mewn prosesydd bwyd neu gyda fforc tan ei fod yn llyfn. Sesnwch gyda halen a phupur a'i addurno gyda'r coriander ffres.