Er bod 2020 yn flwyddyn wahanol iawn i Giniawyr Mawr ledled y wlad, roedd cymdogion a chymunedau yn gallu gwneud cysylltiadau mewn nifer o wahanol ffyrdd - dathlu, diolch a chreu cyfeillgarwch pan oedd eu hangen fwyaf.
Dyma rai o'n huchafbwyntiau o Ginio Mawr 2020...
Cinio Mawr ar eich Trothwy - Stephanie Walwyn yn Leeds
Bu Stephanie gymryd rhan yn Y Cinio Mawr am y tro cyntaf yn ôl yn 2009; “Mae ein Cinio Mawr wedi tyfu a thyfu, o gwpl o deuluoedd y flwyddyn gyntaf, i ymhell dros 100!”
Pan gyflwynwyd mesurau cadw pellter cymdeithasol, nid phoenodd Stephanie am hyn; “Roeddem yn awyddus i gynnal ein digwyddiad, a phan gynigwyd y syniad o Ginio Mawr ar stepen drws fe benderfynom wneud hynny. Fe benderfynom gynnal Cinio Mawr yn ein gerddi ffrynt... Roeddem yn gwybod y byddai'n wahanol, ond rydyn ni i gyd efo'n gilydd. Mae'n braf i bobl ddod allan, a gwybod bod y gymuned yn dal i fod yma.”
Rhannu pleserau annisgwyl – Heather Parker yn Coventry
Bu 18 oedolyn a saith o blant fynychu Cinio Mawr Heather ar Zoom; “Roedd gennym raglen orlawn gyda demo coginio, gweithdy drymio, gemau plant, cwis, parti dawnsio, rhannu gwaith pobl a sgwrsio cyffredinol â bwyd a diod.
“Fe roddom gynnig ar bethau ar Zoom nad oedden ni wedi rhoi cynnig arnyn nhw o'r blaen ac roedden ni'n falch iawn gyda'r canlyniad - fe orffennom trwy rannu canlyniadau cadarnhaol cyfnod y cyfyngiadau symud i ni yn bersonol a chanfod y bu llawer o ganlyniadau cadarnhaol yn ogystal â chaledi.”
Edrych ymlaen at gyfnodau hapusach – Katherine Hersey-Meade yng Nghaint
Cynhaliodd Katherine a'i chymdogion ddigwyddiad stryd o bell, ac maent bellach yn edrych ymlaen at gynnal parti arall unwaith y bydd y rheolau wedi llacio; “…Erbyn hyn mae gennym ein tudalen Facebook ein hunain lle rydym yn rhannu syniadau ar gyfer digwyddiadau cymdeithasol eraill yn ogystal â pharti stryd pan fydd y cyfyngiadau symud drosodd unwaith ac am byth.”
Yr Effaith Fawr
Dewch i weld sut y gwnaeth y Cinio Mawr wahaniaeth yn 2020 gyda'r ffeithlun gwych hwn, a gallwch ddarllen mwy am yr effaith yma.
Cofrestrwch i gymryd rhan yn 2021
Y dyddiad mawr eleni yw 5-6 Mehefin, beth am ymuno yn yr hwyl - ar-lein, ar stepen eich drws neu dros y ffens. Cofrestrwch i dderbyn eich pecyn am ddim nawr!