Mae Alan a Gwen Cook yn byw yn Leigh on Sea, lle maen nhw wedi bod yn dod â'u cymdogion at ei gilydd am Ginio Mawr bob blwyddyn ers 2012. Mae cymuned glos wedi ffurfio dros y blynyddoedd, ac mae’r stryd bellach wedi’i haddurno’n gyson â baneri lliwgar, cymdogion yn cynnal digwyddiadau tacluso stryd, casgliadau banc bwyd wythnosol ac yn cefnogi ei gilydd trwy gyfnodau da a drwg.
Dywedodd Alan, “I ni, oherwydd ein bod yn byw mewn ardal drefol fawr, gall fod yn anodd creu cysylltiadau. Ond pan fyddwch chi'n gwneud yr ymdrech, mae cefnogaeth pobl yn llifo'n naturiol. Yn hytrach na dweud helo sydyn, mae pobl wir eisiau stopio a sgwrsio nawr, a byddant yn mynd allan o’u ffordd i helpu eraill.”
Eleni, penderfynodd Alan a Gwen ddechrau cyfnod y Nadolig gyda Chinio Mawr adeg Dolig, a’u gwelodd yn ymgynnull eu cymdogion i gynnau goleuadau Nadolig y stryd fel cymuned. Gyda digonedd o addurniadau, gwin cynnes yn llifo a sŵn carolau yn yr awyr, roedd y digwyddiad yn boblogaidd iawn gyda’r gymuned gyfan.
Eleni, penderfynodd Alan a Gwen ddechrau cyfnod y Nadolig gyda Chinio Mawr adeg Dolig, a’u gwelodd yn ymgynnull eu cymdogion i gynnau goleuadau Nadolig y stryd fel cymuned. Gyda digonedd o addurniadau, gwin cynnes yn llifo a sŵn carolau yn yr awyr, roedd y digwyddiad yn boblogaidd iawn gyda’r gymuned gyfan.
Awydd dod â hud Y Cinio Mawr adeg Dolig i'ch ardal chi? Yn yr un modd â’r Cinio Mawr blynyddol ym mis Mehefin, mae’n ymwneud â dod at ein gilydd gyda chymdogion am gyfeillgarwch a bwyd, a hefyd ychydig o hwyl yr ŵyl y mae mawr ei angen.
Gallai fod yn unrhyw beth o wahodd y cymdogion i mewn am baned a mins peis neu gosod lle ychwanegol wrth eich bwrdd cinio i rywun sy’n byw ar ei ben ei hun, hyd at rhywbeth mwy fel digwyddiad Alan a Gwen – neu hyd yn oed cynnal rhywbeth mewn lleoliad cymunedol lleol. Gallech hefyd edrych ar wefan eich cynghorau i weld a oes unrhyw beth yn digwydd yn eich Man Cynnes agosaf.
Sut bynnag y byddwch yn penderfynu ymuno, gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych ar ein canllaw rhad ac am ddim, gwahoddiadau a syniadau bwyd a diod i helpu i wneud eich digwyddiad yn gracer!