Mae'r Gwersyll Cymunedol yn brofiad dysgu ymgolli, yn cynnig cymysgedd o weithgareddau ymarferol, gweithdai a chyfleoedd rhwydweithio ar gyfer pobl o ledled y DU.
Dyddiadau ac Amserau ein Gwersylloedd Cymunedol
- Chwefror: Dydd Llun 30 Ionawr, Dydd Iau 2 Chwefror, Dydd Llun 6, Dydd Iau 9 a Dydd Llun 13 2023 (pob sesiwn 6.30 – 9pm)
Beth i'w ddisgwyl
Byddwch yn derbyn pecyn adnoddau cyn i chi gychwyn, bydd amser i greu cysylltiadau â'r mynychwyr eraill a bydd yna sesiynau ymarferol i gymryd rhan ynddynt o'ch cymuned neu gartref eich hun.
Sut mae'n gweithio
Mae ein Gwersylloedd Cymunedol ar-lein yn cael eu cynnal ar Zoom o gysur eich cartref eich hun. Rydym yn anelu at ddarparu mwy na gweithdai ar-lein arferol yn unig gyda'r nod o ddarparu profiad unigryw ein Gwersyll Cymunedol i chi.
Rydym yn ymroddedig i fod yn gynhwysol felly siaradwch â ni am unrhyw ofynion ychwanegol sydd gennych chi ac fe wnawn ein gorau i'ch cefnogi chi.
Unrhyw gwestiynau?
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am Gwersylloedd Cymunedol, peidiwch ag oedi cyn cysylltu! E-bostiwch maggie.woods@edenproject.com gyda'ch ymholiad a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted ag y gallwn.
Mae'r Gwersyll ar gyfer pobl gyda diddordeb mewn gweithgareddau cymunedol a gweithredu ar amryw gamau. Mae'r Gwersyll Cymunedol Digidol yn cychwyn ar 12 Hydref 2020 a bydd yn para pum wythnos. Dysgwch beth i ddisgwyl o'r Gwersyll Cymunedol eleni.
Bydd y Gwersyll Cymunedol ychydig yn wahanol eleni. Darllenwch am y manylion ymarferol, yr amrediad o ddyddiadau y gallwch eu bwcio a gyda phwy allwch chi gysylltu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau.
Erbyn hyn, mae 94% o bobl sydd wedi dod i Wersyll Cymunedol wedi mynd ymlaen i wneud rhywbeth yn eu cymunedau gan ddefnyddio'r sgiliau neu wybodaeth ddysgon nhw yn y Gwersyll. Gallwch ddarllen am rai ohonynt yma!
Os ydych chi'n ystyried Gwersyll Cymunedol, mae'n bosib y bydd Y Rhwydwaith hefyd o ddiddordeb i chi. Mae ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwneud newidiadau cadarnhaol yn eu cymunedau, neu unrhyw un sydd eisoes yn gwneud hynny. Darllenwch fwy am y Rhwydwaith.
Clywch am daith Gwersyll Cymunedol Shona ac Esther...
Yn y fideo isod, mae Shona ac Esther yn dweud mwy wrthym am eu profiad o Gwersyll Cymunedol, a pham y dylech chi wneud cais heddiw!
Ond, peidiwch â chymryd ein gair ni yn unig am hynny...
Dywedodd 99% o gyfranogwyr 2020 bod y rhaglen naill ai'n ardderchog neu'n dda, gyda 97% yn argymell y Gwersyll Cymunedol Digidol i eraill. Dyma beth oedd gan rai i ddweud...
"Roedd cymaint o gynnwys, adnoddau, siaradwyr ond oll wedi'u cyflwyno mewn modd cyfforddus a chroesawgar. Roedd yn teimlo fel man diogel i fod yn agored a dysgu."
"Rwy'n credu y byddai'r gwersyll o fudd i gymaint o bobl, nid yn unig y sawl sydd eisoes yn cyfranogi yn y gymuned neu sydd am ennyn diddordeb pobl eraill - roedd yna bethau defnyddiol i bawb, yn enwedig ar adeg pan fod angen i ni ddod at ein gilydd ac edrych i'r dyfodol ar ôl blwyddyn ofnadwy."
"Mae wedi bod yn brofiad hynod fuddiol, rwyf wedi dysgu llawer, cwrdd â nifer o bobl ysbrydoledig ac rwyf bellach yn teimlo mwy parod, hyderus a brwdfrydig i wireddu prosiectau yn fy nghymuned. Diolch!" ...Mynychwyr Gwersyll Cymunedol Digidol 2020