Ymunwch â'n gweithdai ar-lein yn archwilio pob math o syniadau a chyfleoedd gyda phobl â meddylfryd cymunedol ledled y DU.
Os oes gennych chi gwestiwn neu awgrym ar gyfer gweithdy yn y dyfodol, neu os hoffech gyflwyno, gydweithio neu rannu'ch stori mewn gweithdy, buasem wrth ein boddau yn clywed gennych! E-bostiwch Lucy gyda'ch meddyliau a syniadau.
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am weithdai ynghyd â digwyddiadau a chyfleoedd eraill ledled y DU, cofrestrwch i dderbyn cylchlythyr misol Cymunedau Eden Project.
Cynhelir y sesiynau hyn ar Zoom, i gofrestru cliciwch ar y dolenni isod.
8 Medi, 1pm
Dyma wahoddiad twymgalon i ddod i glywed gan dair menter gymunedol sy'n gweithio'n galed i fynd i'r afael â'r materion dybryd hyn sy'n wynebu ein cymunedau y diwrnodau hyn.
14 Medi, 7pm
Mae pawb yn hoffi ffrind sy'n wrandäwr da! Mae cael rhywun sy'n gwrando yn ein helpu i deimlo wedi ein derbyn ac yn rhan o bethau. Ond beth mae gwrando ar rywun wir yn ei olygu? Yn y sesiwn rhyngweithiol hwn, byddwn yn siarad am sut i fod yn wrandäwr da a sut gallwn osgoi ymyriadau ein byd prysur i roi ein sylw llawn i rywun.
28 Medi, 7.30pm
Ymunwch â'r Rhwydwaith Lles (NOW), Cymunedau Eden Project ac amrywiaeth o wneuthurwyr newid ysbrydoledig yn lansiad cyfres ar-lein o ddigwyddiadau sy'n ymchwilio i'r pwnc 'Oes Rhaid i Fywydau Da Gostio'r Ddaear?' Beth sy'n gwneud 'bywyd da’? Dyma'r digwyddiad lansio ar gyfer cyfres o dri digwyddiad a gynhelir ar nosweithiau Mawrth 7.30-9pm ar 28 Medi, 12 Hydref a 26 Hydref. Gallwch ddewis mynychu'r digwyddiad hwn fel digwyddiad unigol, neu ddod i ddigwyddiadau eraill yn y gyfres.
6 Hydref, 12pm
Beth mae 'bywyd da' yn ei olygu? Beth sydd wir yn ein gwneud ni'n hapus? A sut gallwn ni ddysgu i fyw'n dda o fewn cyfyngiadau naturiol y blaned?
Ymunwch â ni o'ch soffa i drafod y cwestiynau mawr hyn gyda phobl eraill o'r un meddylfryd o ledled y wlad!
Lle cyfeillgar, hamddenol yw hwn i drafod yn agored a rhannu syniadau dros baned.
12 Hydref, 7.30pm
Ymunwch â'r Rhwydwaith Lles (NOW) a Chymunedau Eden Project ar gyfer yr ail ddigwyddiad yn y gyfres, 'Oes Rhaid i Fywydau Da Gostio'r Ddaear?'. Rydym hefyd yn gyffrous y bydd cyd-gyflwynydd ychwanegol yn ymuno â ni ar gyfer y digwyddiad hwn: Gŵyl Caredigrwydd, Tosturi a Lles Leeds. Yn ystod y weminar hon rydym yn ymchwilio i sut y gall dod â chymunedau at ei gilydd i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd helpu i leihau allyriadau a chynyddu lles ar yr un pryd.
26 Hydref, 7.30pm
Ymunwch â'r Rhwydwaith Lles (NOW) a Chymunedau Eden Project ar gyfer y digwyddiad olaf yn y gyfres, 'Oes Rhaid i Fywydau Da Gostio'r Ddaear?' Er bod rhai camau pwysig y gallwn eu cymryd ar lefelau personol a chymunedol i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, mae'n amlwg bod angen newid mwy a systemig hefyd i'n galluogi i newid yr argyfwng hinsawdd byd-eang presennol. Beth yw'r newidiadau systemig sydd eu hangen i gefnogi lles pobl, y planed a chenedlaethau'r dyfodol?
Os nad ydych yn gallu ymuno, byddwch yn rhannu nodiadau a recordiadau yn ein harchif o Weithdai Blaenorol, felly edrychwch eto ar ôl y digwyddiad i weld beth ddigwyddodd!