Lightbulb illustration used decoratively icon

Sut i gychwyn prosiect bwyd cymunedol

Mae gan bawb ddiddordeb mewn bwyd. Mae’n ofyniad dynol sylfaenol, ond yn fwy na hynny, mae’n ffordd flasus o gysylltu â phobl eraill yn ein cymunedau. Fel mae pawb yn gwybod, mae bwyd da yn dod â phobl at ei gilydd.

Disco Soup event

Beth yw prosiect bwyd cymunedol?

Mae prosiectau bwyd cymunedol yn ffordd wych o gael pobl i ddysgu am fwyd, maeth a choginio, tra hefyd yn gwneud y gorau o gynnyrch lleol. Mae llawer ohonynt hefyd yn anelu at wella’r gymuned a’r amgylchedd. Mae prosiectau bwyd cymunedol yn ymwneud â chaniatáu i bobl leol reoli o ble y daw eu bwyd a’u cysylltu â’i gilydd a lle maent yn byw. Mae prosiect bwyd yn ffordd wych o gael pawb i gymryd rhan, dod â chymunedau at ei gilydd, gan helpu i greu ymdeimlad o falchder lleol.

Syniadau ar gyfer prosiectau bwyd arloesol

Mae llawer o ffyrdd y gallwch sefydlu eich banc bwyd eich hun, a gallwch ddod o hyd i’r dull sy’n gweithio orau i’ch cymuned.

 

  • Gerddi bwyd cymunedol neu berllannau cymunedol
  • Rhandiroedd
  • Bwyd gwyllt a thwrio am fwyd – beth am wneud y jam blasus hwn gydag eirin duon wedi’u chwilota?
  • Siopau cymunedol
  • Gwneud defnydd o wastraff bwyd
  • Cyfnewidiadau bwyd
  • Clybiau swper
Man standing in commercial kitchen wearing apron and smiling at the camera.

Sut i gychwyn banc bwyd

Os ydych chi eisiau gwybod sut i sefydlu banc bwyd, rydych chi wedi dod i’r lle cywir! Nid yw sefydlu banc bwyd at ddant pawb gan fod angen llawer o waith, ond gall wneud gwahaniaeth enfawr i’ch cymuned. Yn syml, bydd angen bwyd, arian a gwirfoddolwyr arnoch er mwyn cychwyn arni. Gallwch ddarllen mwy am sut i reoli gwirfoddolwyr yma.

Y camau sylfaenol yw trefnu gofod, ble/pryd/sut y byddwch yn cael rhoddion a sut y bydd popeth yn cael ei gludo. Efallai ei bod yn werth cael cymorth gan rwydweithiau banciau bwyd presennol megis The Trussell Trust.

Dewch o hyd i gyngor ar sut i ddechrau banc bwyd

Cymuned yw sut rydyn ni’n creu’r dyfodol rydyn ni ei eisiau. Mae cymaint o bobl â chymaint o sgiliau a chymaint o wybodaeth i’w rhannu. Mae cymuned yn golygu dod ynghyd i geisio gwneud rhywbeth gwell ac i rannu cariad a bwyd ac ehangu eich teulu i gynnwys eich cymdogion.