Mae ein tim yn gyfuniad o unigolion hyfryd sy’n gwybod yn union beth sydd ei angen i wneud i bethau ddigwydd yn ein cymunedau.
Gall y tim eich helpu chi i ddechrau prosiect, helpu i ddatrys problemau, eich cysylltu chi gydag unigolion o’r un meddylfryd sy’n gwneud newidiadau positif yn eu cymunedau. Dyma nhw…

Mae Tracey yn rheoli’r tim ym Mhrydain ac yn goruwchwylio gwaith y pedwar rhanbarth. Mae Tracey yn angerddol am gymunedau, rhwydweithiau anffurfiol, perthnasau, rhyng-gysylltiadau a gostwng unigrwydd. Mae Tracey ei hun yn gynyrch o ddatblygiad cymunedol ac yn ffocysu ar fod yn unigolyn cyffredin pwerus, dynes o’r gogledd sy’n rhoi llawer o gwtchys!

Cymru – Cysylltwch â Lowri
Lowri sy’n gyfrifol am waith Cymunedau’r Eden Project yng Nghymru. Mae wrth ei bodd yn gweithredu newidiadau positif ac mae wedi arwain nifer o ymgyrchoedd amgylcheddol ar hyd a lled Cymru. Mae’n cael ei hysbrydoli gan yr amrywiaeth o brosiectau cymunedol ar hyd a lled Cymru ac mae’n angerddol am eu cefnogi er mwyn sicrhau eu bod yn cyraedd eu potensial.
Cymru – Cysylltwch â Samantha
Mae Samantha yn cysylltu prosiectau cymunedol a threfnwyr cymunedol ar hyd a lled Cymru. Mae wth ei bodd yn cefnogi pobl sy’n creu digwyddiadau anffuriol i ddod â’r gymuned ynghyd, i fabwysiadu a rhannu’r ysbryd cymunedol gyda’i gilydd a’r teimlad o falchter am yr ardal ble mae nhw’n byw.
Mae Gráinne yn rheoli gwaith Cymunedau’r Eden Project yng Ngogledd Iwerddon, ac wedi meithrin Y Cinio Mawr ers 2011. Mae ganddi dros 20 mlynedd o brofiad yn y maes cyfathrebu ac ymgysylltu, yn hyrwyddo syniadau a chyfleoedd a datblygu partneriaethau. Mae Gráinne yn credu mewn grym ysbryd cymunedol ac wrth ei bodd pan mae cynlluniau’n dod ynghyd.

Mae Paul wedi gweithio mewn cymunedau am y mwyafrif o’i fywyd fel oedolyn, yn gyflogedig ac yn wirfoddol. Mae’n ogleddwr balch ac mae ganddo angerdd go iawn am greu cymunedau cryf a dod â phobl ynghyd.

Sophie sy’n rheoli gwaith Cymunedau’r Eden Project a’r Cinio Mawr yn yr Alban, mewn partneriaeth gyda Rheolwr Ymgyrchoedd yr Alban. Wedi gweithio yn y gymuned LGBT am nifer o flynyddoedd, mae’n ymddiddori mewn dod a phobl ynghyd, hawliau dynol ac adeiladu gofodau heddychlon. Mae’n caru’r awyr agored, yn ei gardd, y môr a’r mynyddoedd.