Diolch i Tracey, ein Rheolwraig Cyflenwi yn y DU, am rannu ei cherdd deimladwy ar unigrwydd a bregusrwydd pobl. Rhowch y tegell ymlaen a darllenwch ei cherdd.
Unigrwydd: Bregusrwydd pobl
Dwn i ddim a ydw i'n ffit, myfi ydw i beth bynnag, pwy sy'n beirniadu hynny?... Fi
Peidiwch â bod ofn, weithiau mae angen helpu arnom, wyneb, lle, paned, weithiau mae gwneud dim yn helpu...
Mae fy nghalon yn teimlo'r boen yn eich llais
Ydych chi'n gwrando arnaf? Clywch
Mae bod ar eich pen eich hun yn iawn, mae bod yn unig yn iawn, nid chi yw'r unig un
Mae yna olau ar ddiwedd y twnnel, parhewch i wthio trwy'r glaw
Unigedd ac unigrwydd, cam yn ôl yn unig ydyw a fydd yn eich helpu i neidio ymlaen ymhen dim
Mae peidio â theimlo'n unig yn gryfder ac yn fraint. Nid oes rhaid i'ch taith ddod i ben gydag unigrwydd.
Fy natgysylltiad, fy anobaith, fy nhrallod rwy'n cuddio, fy mhoen, fy unigrwydd, i'ch amddiffyn chi.
Yr wyneb rydym yn cuddio tu ôl iddo, os i ni adael i'r masg gwympo, gallwn gychwyn gweld, a gweld ein gilydd.
Gweld bregusrwydd pobl
Mae'n iawn i fyw am y foment ac i hoffi'r gair: perthyn
Mae popeth sydd angen arnoch y tu mewn i chi, rydych chi'n deilwng
Rydych chi'n werthfawr
Diolch o waelod fy nghalon am wrando, roedd yr unigedd yn fy ngyrru'n go wallgof